Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Morgan: Examining co-payments on the NHS

Speech to the National Assembly for Wales.

"I am certainly earning my salary this afternoon. In moving this motion, I am pleased that we have the opportunity to debate what is a complex matter—I think that we would all accept that—but one that deserves our fullest attention. Last Tuesday, the Secretary of State for Health announced a review of the policy relating to co-payments. I welcome that because in our view, the banning of co-payments goes against the core values of the NHS—in fact, one of its most cherished principles, namely that treatment should be free at the point of use. The Assembly Government has said that it will monitor the review by the Department of Health, so the purpose of this debate is to find out what the view of the Assembly Government and this Assembly Minister on co-payments is and where we think the direction of travel needs to be on this difficult issue. I strongly believe that the people of Wales will want to know the view of their health Minister on this, and I look forward to hearing from her in this debate.

Many people in and outside the Chamber will recognise the problem: there is a grave injustice and inconsistency in how the NHS handles patients who make some use of private care. In some cases where the NHS cannot or will not provide new and relatively expensive drugs, patients have been willing to fund them privately. Lucentis, as we heard in the earlier debate is an example of that. However, this issue has also related to key areas, such as cancer and heart disease.

The issue has come to a head in recent months as a number of cancer patients have been banned from receiving national health service care after topping up their treatment. One of the most high-profile cases was that of Linda O'Boyle, a 64-year-old from Essex who was diagnosed with bowel cancer in 2006. She received NHS treatment including chemotherapy but, after discussions with her clinician, decided that she needed an eight-week course of a drug called cetuximab. She paid £11,000 for that course of treatment, which is not available on the NHS but which had been recommended by her clinician to prolong her life. She was subsequently denied the basic package of NHS care that she had previously been receiving. Sadly, she died in March this year.

That is a high-profile case and has been cited by Members of Parliament in the House of Commons as the reason why this issue needs to be addressed. There have been, and continue to be, a whole raft of cases similar to that of Linda O'Boyle. If a patient opts for some private treatment, that should not mean that the NHS cannot treat patients equally in respect of the state-funded care that they receive. If the Government refuses to acknowledge that, it will walk away from those people in Wales who are dying, and whose only offence is to use their own money to try to extend their own life. Patients seeking co-payments are not asking for special favours, preferential treatment, or even a handout from the national health service; they are simply asking for their package of care to be continued, alongside the top-up treatment that they have decided to pay for.

Co-payments are already happening throughout the NHS and other public services. If I were to go to an optician tomorrow as ân NHS patient, I could receive a free pair of glasses but there is nothing preventing me from using my own money to buy contact lenses. NHS care is not withdrawn at that point. Likewise, if I were to go to a dentist and have a filling on the NHS and then pay privately for teeth-cleaning or whitening, the NHS care would not be withdrawn. Meanwhile, we have private beds in NHS hospitals, using NHS equipment and staff, and again, patients do not have other aspects of NHS care withdrawn. We could also look outside the NHS at other public services: state education is not withdrawn simply because a child has access to private tuition. The state education system is there for everyone, regardless of whether private tuition is accessed.

The policy in respect of co-payments right across public services is inconsistent. The current NHS guidelines say that an individual cannot simultaneously be an NHS and a privately funded patient of the same NHS hospital within the same episode of care. The problem, and hence the complexity, is around what constitutes an 'episode of care'. Many patients require treatment that could be classed as several episodes of care.

Those who believe in maintaining the ban on co-payments say that removing it will create a two-tier health system. I am afraid that, after looking at the NHS in Wales today, indeed, across the United Kingdom, one could argue that a two-tier system already exists. If you compare those who have to rely on drugs that the NHS can afford with those who are able to fund a drug recommended by their clinician that is not provided by the NHS, you see the nature of the two-tier system in healthcare demonstrated. It is the inability of the NHS to sanction and properly resource drugs and therapies that creates that two-tier system in the first place.

My concern now is that the Welsh Assembly Government might sit still and watch what happens across the border in England. I accept that reinventing the terms of the review may not be necessary, but the Minister has to look at the Welsh NHS to tease out what is peculiar to Wales that might have to be addressed if a review in England recommends lifting the ban on co-payments. We may have to do things differently in Wales. If this unjust policy is reversed in England, I believe that the Assembly Government will have to do the same. It would be inconceivable for the ban on co-payments to be reversed in England but for us to maintain it in Wales.

We are a proud nation that has supported the NHS since its inception 60 years ago. All those living in Wales, of whatever background and political creed, believe strongly in the principles of the national health service. As we approach the sixtieth anniversary of the creation of that wonderful institution, we should take this opportunity to right one of the wrongs in today's healthcare system."

"Yr wyf fi'n sicr yn ennill fy nghyflog y prynhawn yma. Wrth gynnig y cynnig hwn, yr wyf yn falch ein bod yn cael cyfle i drafod mater cymhleth—credaf y byddem oll yn derbyn hynny—ond un sy'n haeddu sylw manwl gennym. Ddydd Mawrth diwethaf, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd adolygiad o'r polisi ynglyn â thaliadau ar y cyd. Yr wyf yn croesawu hynny oherwydd, yn ein barn ni, mae gwahardd taliadau ar y cyd yn mynd yn groes i werthoedd craidd y GIG—un o'i hegwyddorion pwysicaf, yn wir, sef y dylai triniaeth fod am ddim adeg ei defnyddio. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud y bydd yn monitro adolygiad yr Adran Iechyd, felly diben y ddadl hon yw canfod beth yw barn Llywodraeth y Cynulliad a'r Gweinidog Cynulliad hwn ynglyn â thaliadau ar y cyd ac ym mha gyfeiriad y credwn y dylid bwrw ymlaen â'r mater dyrys hwn. Credaf yn gryf y bydd ar bobl Cymru eisiau gwybod beth yw barn eu Gweinidog iechyd ar hyn, ac edrychaf ymlaen at glywed ganddi yn ystod y ddadl hon.

Bydd llawer o bobl yn y Siambr ac oddi allan iddi yn ymwybodol o'r broblem: ceir anghyfiawnder ac anghysondeb difrifol yn y modd y mae'r GIG yn trin cleifion sy'n defnyddio rhywfaint o ofal preifat. Mewn rhai achosion pan na all y GIG ddarparu cyffuriau newydd a chymharol ddrud, neu pan nad yw'n fodlon gwneud hynny, mae cleifion wedi bod yn fodlon eu hariannu'n breifat. Mae Lucentis, fel y clywsom yn y ddadl gynharach, yn enghraifft o hynny. Fodd bynnag, mae'r mater hwn wedi codi hefyd mewn meysydd allweddol, megis canser a chlefyd y galon.

Mae'r mater wedi cyrraedd penllanw yn y misoedd diwethaf wrth i nifer o gleifion canser gael eu gwahardd rhag cael gofal dan y gwasanaeth iechyd ar ôl iddynt dalu am driniaeth ychwanegol. Un o'r achosion a gafodd y sylw mwyaf oedd achos Linda O'Boyle, menyw 64 oed o Essex. Cafodd wybod bod ganddi ganser ar y coluddyn yn 2006. Cafodd driniaeth dan y GIG gan gynnwys cemotherapi ond, ar ôl trafod gyda'i chlinigydd, penderfynodd fod angen cwrs wyth wythnos arni o gyffur a elwir yn cetuximab. Talodd £11,000 am y cwrs triniaeth hwnnw. Nid yw'r cyffur ar gael dan y GIG ond yr oedd ei chlinigydd wedi'i argymell iddi er mwyn ymestyn ei hoes. Wedi hynny, gwrthodwyd rhoi'r pecyn gofal sylfaenol iddi yr oedd wedi bod yn ei gael dan y GIG cyn hynny. Yn anffodus, bu farw ym mis Mawrth eleni.

Mae'r achos hwnnw'n un sydd wedi cael cryn sylw ac mae Aelodau Seneddol wedi sôn amdano yn Nhy'r Cyffredin gan ddweud mai dyna pam mae angen mynd i'r afael â'r mater hwn. Mae llu o achosion tebyg i achos Linda O'Boyle wedi bod, ac maent yn dal i ddigwydd. Os bydd claf yn dewis cael rhywfaint o driniaeth breifat, ni ddylai hynny olygu na all y GIG drin cleifion yn gyfartal o ran y gofal y bydd y wladwriaeth yn talu amdano. Os bydd y Llywodraeth yn gwrthod cydnabod hynny, bydd yn cerdded i ffwrdd oddi wrth y bobl hynny yng Nghymru sy'n marw, a'u hunig drosedd yw defnyddio'u harian eu hunain i geisio ymestyn eu hoes eu hunain. Nid yw cleifion sy'n ceisio taliadau ar y cyd yn gofyn am ffafrau arbennig, triniaeth sy'n eu ffafrio, na hyd yn oed gyfraniad gan y gwasanaeth iechyd gwladol; y cyfan y maent yn gofyn amdano yw bod eu pecyn gofal yn parhau, ochr yn ochr â'r driniaeth ychwanegol y maent wedi penderfynu talu amdano.

Mae taliadau ar y cyd yn digwydd eisoes ym mhob cwr o'r GIG ac mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill. Petawn yn mynd at optegydd yfory fel un o gleifion y GIG, gallwn gael sbectol am ddim, ond nid oes dim i'm rhwystro rhag defnyddio fy arian fy hun i brynu lensys cyffwrdd. Ni wrthodir gofal y GIG imi bryd hynny. Yn yr un modd, petawn yn mynd at ddeintydd a chael llenwi dant dan y GIG ac yna'n talu'n breifat am lanhau neu wynnu fy nannedd, ni fyddai gofal y GIG yn cael ei wrthod imi. Yn y cyfamser, mae gennym welyau preifat yn ysbytai'r GIG, yn defnyddio offer a staff y GIG, ac unwaith eto, ni wrthodir agweddau eraill ar ofal y GIG i gleifion. Gallem hefyd edrych y tu allan i'r GIG ar wasanaethau cyhoeddus eraill: ni wrthodir addysg y wladwriaeth i blentyn am ei fod yn gallu manteisio ar wersi preifat. Mae system addysg y wladwriaeth yno i bawb, ni waeth a ydynt yn manteisio ar wersi preifat ai peidio.

Mae'r polisi sy'n ymwneud â thaliadau ar y cyd ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yn anghyson. Dywed canllawiau presennol y GIG na all unigolyn fod yn glaf i'r GIG ac yn glaf sy'n talu'n breifat ar yr un pryd yn yr un ysbyty GIG o fewn yr un cyfnod gofal. Y broblem yma, a dyma lle mae'r cymhlethdod yn codi, yw beth yw 'cyfnod gofal'. Mae angen triniaeth ar lawer o gleifion y gellid ei hystyried yn sawl cyfnod gofal.

Mae'r rheini sy'n credu y dylid dal i wahardd taliadau ar y cyd yn dweud y bydd dileu'r gwaharddiad yn creu system iechyd ddwy haen. Mae arnaf ofn, ar ôl edrych ar y GIG yng Nghymru heddiw, yn wir, ledled y Deyrnas Unedig, y gallai rhywun ddadlau bod gennym system ddwy haen eisoes. Os cymharwch y rheini sy'n gorfod dibynnu ar y cyffuriau y gall y GIG eu fforddio â'r rheini sy'n gallu talu am gyffur a argymhellir gan eu clinigydd—cyffur nad yw'n cael ei ddarparu gan y GIG, gwelwch natur y system ddwy haen ar waith ym maes gofal iechyd. Anallu'r GIG i awdurdodi a darparu'r adnoddau priodol ar gyfer cyffuriau a therapïau sy'n creu'r system ddwy haen honno yn y lle cyntaf.

Fy mhryder yn awr yw y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru o bosibl yn eistedd yn llonydd ac yn gwylio'r hyn sy'n digwydd dros y ffin yn Lloegr. Derbyniaf nad oes o reidrwydd angen ailddyfeisio telerau'r adolygiad, ond rhaid i'r Gweinidog edrych ar y GIG yng Nghymru i geisio dirnad pa bethau sy'n arbennig yng Nghymru y gall fod gofyn rhoi sylw iddynt os bydd adolygiad yn Lloegr yn argymell codi'r gwaharddiad ar daliadau ar y cyd. Efallai y bydd yn rhaid inni wneud pethau'n wahanol yng Nghymru. Os caiff y polisi anghyfiawn hwn ei wrthdroi yn Lloegr, credaf y bydd yn rhaid i Lywodraeth y Cynulliad wneud yr un peth. Ni fyddai modd cael sefyllfa lle byddai'r gwaharddiad ar daliadau ar y cyd yn cael ei wrthdroi yn Lloegr a ninnau'n cadw ato yng Nghymru.

Yr ydym yn genedl falch sydd wedi cefnogi'r GIG ers ei eni 60 mlynedd yn ôl. Mae pawb sy'n byw yng Nghymru, beth bynnag y bo'i gefndir a'i gred wleidyddol, yn credu'n gryf yn egwyddorion y gwasanaeth iechyd gwladol. A'r sefydliad rhyfeddol hwnnw ar drothwy ei drigain oed, dylem achub ar y cyfle hwn i unioni un o'r camweddau yn y system gofal iechyd heddiw."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech