Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Isherwood: Good intentions not enough to tackle drugs menace

Speech to the National Assembly for Wales.

"The Assembly Government's substance misuse strategy is full of good intentions. There are key performance indicators, toolkits and frameworks, but there is little recognition of the systematic problems and inflexible policies that hamper substance misuse treatments.

A strategy according to my dictionary is a long-term plan of action designed to achieve a particular goal. However, I cannot find any action plan in this strategy. The strategy refers to increased funding, but that must be seen in the context of big increases in demand. Client numbers increased by 29 per cent—nearly 36,000 in the year to April 2007. That is a 20 per cent increase for drugs and a 40 per cent increase for alcohol. The Assembly Government states that its new strategy will give greater prominence to the misuse of alcohol and it will have to do so. While harm caused by alcohol has increased, the gulf between treatment and need has widened.

Following a series of damning reports, I propose amendment 1, which expresses concern at the failure of the Assembly Government's substance misuse strategy to date and notes that future substance misuse strategies must specifically reflect the practical experience of service users, the practical advice of experts working in the sector and the practical findings of independent reports.

The review of substance misuse tier 4 treatment services in Wales identified numerous reports of people re-offending so as to be able to be detoxified in prison and of hospital admissions because of the unavailability of in-patient detoxification and residential rehabilitation.

It found that assessment of need for in-patient detoxification and residential rehabilitation is inconsistent and lacks clarity. It also found that there are no facilities in Wales to provide residential detoxification and rehabilitation on the same site. Furthermore, in some areas neither in-patient detoxification nor residential rehabilitation are an available treatment option and referral in commissioning pathways are mostly:

'Bureaucratic, seemingly designed in many instances to prevent clients from accessing treatment.'

Beds have been reduced in accordance with Assembly Government policy to replace rather than complement them with community-based treatment. Detoxification beds in north Wales are now being contracted to north-west England because of Welsh funding cuts.

Rehabilitation units in south Wales are bringing people in from England and then referring them to detoxification beds in north Wales. This Minister must therefore take action on the draft proposals from treatment providers to double detox and rehabilitation beds and develop more appropriate referral processes, a patients' charter and an advocacy system.

The Assembly Government funded report by Word from the Street followed a survey of substance misusers focused on the barriers to accessing drug treatment services. It found, for example, that 51 per cent of respondents in treatment said that they did not have a care plan and that care plans were not being reviewed with service users. The recommendations in this report, therefore, need action and not words.

The Assembly Government states that its substance misuse core education prevention programme is delivered in partnership between schools and police and that its drug intervention programmes encourage offenders to engage with treatment services and offer support when a drug misusing offender reaches the end of a prison-based treatment programme.

However, the Choose Life programme that operates in Altcourse Prison and Walton Prison, where most north Wales offenders are incarcerated, does not receive Welsh funding. Choose Life also takes the message to young people in schools and colleges. It is presented by ex-offenders and ex-addicts—the very people who are the hardest to reach and the very people who can reach the hardest to reach.

This good work must be supported as must the work of DangerPoint in Flintshire, which delivers hands-on safety education to children and young people from across north Wales that should be duplicated throughout Wales. The same is true of the Don't Touch—Tell! scheme run by CAIS in primary schools.

The 'Breakthrough Britain' report found that Government action, albeit filled with good intentions, has often exacerbated existing problems and, in some areas, has created new ones. Reaction to deep fractures in society with short-term policy solutions, harm reduction and medical management and maintenance have a place in treatment, but many other doors should be opened, including that to the path towards abstinence. We need robust treatment intervention and harm prevention and not just harm reduction.

Furthermore, there is a chronic shortage of dual diagnostic treatment for people suffering from mental health problems combined with substance misuse problems. Drug and alcohol abusers need treatment, training, housing and an introduction to the workplace. People must be helped back to a productive life and away from anti-social behaviour and crime.

Therefore, the Welsh Conservatives propose to tackle Labour's revolving-door approach—which means that people are sent back to the situation they came from after treatment—by prioritising value for money and real multi-agency working before anyone is discharged from treatment."

"Mae strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gamddefnyddio sylweddau yn llawn bwriadau da. Mae yma ddangosyddion perfformiad allweddol, pecynnau cymorth a fframweithiau, ond nid oes fawr o gydnabyddiaeth o'r problemau cyfundrefnol a'r polisïau anhyblyg sy'n llesteirio triniaethau camddefnyddio sylweddau.

Yn ôl fy ngeiriadur i, cynllun gweithredu tymor hir a fwriadwyd i wireddu nod neilltuol yw strategaeth. Fodd bynnag, ni allaf ganfod unrhyw gynllun gweithredu yn y strategaeth hon. Mae'r strategaeth yn cyfeirio at fwy o gyllid, ond rhaid edrych ar hynny yng nghyd-destun y cynnydd mawr yn y galw. Cynyddodd nifer y cleientiaid 29 y cant—bron i 36,000 yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2007. Mae hynny'n gynnydd o 20 y cant o ran cyffuriau a chynnydd o 40 y cant o ran alcohol. Dywed Llywodraeth y Cynulliad y bydd ei strategaeth newydd yn rhoi mwy o amlygrwydd i gamddefnyddio alcohol a bydd yn rhaid iddi wneud hynny. Tra mae'r niwed a achosir gan alcohol wedi cynyddu, mae'r bwlch rhwng y driniaeth a'r angen wedi lledu.

Yn dilyn cyfres o adroddiadau damniol, cynigiaf welliant 1, sy'n mynegi pryder oherwydd methiant strategaeth camddefnyddio sylweddau Llywodraeth y Cynulliad hyd yn hyn ac yn nodi bod yn rhaid i strategaethau camddefnyddio sylweddau yn y dyfodol adlewyrchu'n benodol brofiadau ymarferol defnyddwyr gwasanaethau, cyngor ymarferol arbenigwyr sy'n gweithio yn y sector a chanfyddiadau ymarferol adroddiadau annibynnol.

Nododd yr adolygiad o wasanaethau trin camddefnyddio sylweddau haen 4 yng Nghymru amryw o adroddiadau am bobl yn aildroseddu er mwyn iddynt allu dadwenwyno yn y carchar ac am dderbyniadau i'r ysbyty am nad oedd darpariaeth ddadwenwyno i gleifion mewnol ac ailsefydlu preswyl ar gael. Canfu fod yr asesiad o'r angen am ddadwenwyno ar sail claf mewnol ac am ailsefydlu preswyl yn anghyson a bod diffyg eglurder. Canfu hefyd nad oes cyfleusterau yng Nghymru i ddarparu dadwenwyno ac ailsefydlu preswyl ar yr un safle. Ymhellach, mewn rhai ardaloedd, nid yw dadwenwyno i gleifion mewnol nac ailsefydlu preswyl yn opsiwn trin sydd ar gael ac mae'r cyfeirio ar y llwybrau comisiynu gan mwyaf:

Yn fiwrocrataidd, wedi'i gynllunio yn ôl pob golwg mewn llawer o achosion i atal cleifion rhag cyrchu at driniaeth.

Gostyngwyd nifer y gwelyau yn unol â pholisi Llywodraeth y Cynulliad i'w disodli â thriniaethau seiliedig yn y gymuned, yn hytrach na darparu triniaethau felly yn ogystal â hwy. Mae gwelyau dadwenwyno yng ngogledd Cymru yn cael eu gosod ar gontract erbyn hyn i ogledd-orllewin Lloegr oherwydd toriadau cyllido yng Nghymru. Mae unedau ailsefydlu yn y de yn dod â phobl yno o Loegr ac yna'n eu cyfeirio i welyau dadwenwyno yn y gogledd. Rhaid felly i'r Gweinidog hwn weithredu ar y cynigion drafft gan ddarparwyr triniaethau i ddyblu nifer y gwelyau dadwenwyno ac ailsefydlu, a datblygu prosesau cyfeirio mwy priodol, siarter i'r claf a system eiriolaeth.

Mae adroddiad a gyllidwyd gan Lywodraeth y Cynulliad gan Word from the Street yn dilyn arolwg o gamddefnyddwyr sylweddau a ganolbwyntiai ar y rhwystrau rhag cyrchu at wasanaethau trin ym maes cyffuriau. Canfu, er enghraifft, i 51 y cant o'r ymatebwyr a oedd yn cael triniaeth ddweud nad oedd ganddynt gynllun gofal ac nad oedd cynlluniau gofal yn cael eu hadolygu gyda defnyddwyr gwasanaethau. Gweithredu, nid geiriau, y mae ei angen felly ar yr argymhellion yn yr adroddiad hwn.

Dywed Llywodraeth y Cynulliad fod ei rhaglen addysg graidd i atal camddefnyddio sylweddau yn cael ei chyflwyno drwy bartneriaeth rhwng ysgolion a'r heddlu a bod ei rhaglenni ymyrryd ym maes cyffuriau yn annog troseddwyr i weithio gyda gwasanaethau trin ac yn cynnig cefnogaeth pan fydd troseddwr sy'n camddefnyddio cyffuriau yn dod i ddiwedd rhaglen drin seiliedig yn y carchar. Fodd bynnag, nid yw'r rhaglen Choose Life sydd ar waith yng Ngharchar Altcourse a Charchar Walton, lle carcharir y rhan fwyaf o droseddwyr gogledd Cymru, yn cael cyllid o Gymru. Mae Choose Life hefyd yn mynd â'r neges i bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau. Caiff ei chyflwyno gan gyn-droseddwyr a phobl sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau—yr union bobl sy'n fwyaf anodd eu cyrraedd a'r union bobl a all gyrraedd y rhai sy'n fwyaf anodd eu cyrraedd.

Rhaid i'r gwaith da hwn gael ei gefnogi ac felly hefyd waith DangerPoint yn sir y Fflint, sy'n darparu addysg diogelwch ymarferol i blant a phobl ifanc o bob rhan o'r gogledd, y dylai gael ei dyblygu ledled Cymru. Mae'r un peth yn wir am y rhaglen Paid Cyffwrdd—Dwêd! sy'n cael ei rhedeg gan CAIS mewn ysgolion cynradd.

Canfu'r adroddiad, 'Breakthrough Britain', fod gweithredu gan Lywodraeth, er ei fod yn aml yn llawn bwriadau da, yn aml wedi gwneud y problemau a oedd yn bodoli eisoes yn waeth ac, mewn rhai meysydd, ei fod wedi creu rhai newydd. Mae ymateb i rwygiadau dwfn mewn cymdeithas gydag atebion polisi tymor byr, camau lleihau niwed a rheolaeth a chynhaliaeth feddygol yn gallu bod yn ddilys ym maes trin, ond dylid agor llawer o ddrysau eraill, gan gynnwys y llwybr at ymatal. Mae angen ymyriadau trin a dulliau atal niwed cryf arnom, nid dim ond camau i leihau niwed.

Ar ben hynny, mae prinder cronig o driniaethau diagnostig deuol i bobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl wedi'u cyfuno â phroblemau camddefnyddio sylweddau. Mae angen triniaeth, hyfforddiant, tai a chyflwyniad i'r gweithle ar y rhai sy'n camddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Rhaid i bobl gael help i fynd yn ôl at fywyd cynhyrchiol a chadw draw oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu.

Felly, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn bwriadu gwrthwynebu dull gweithredu di-hid Llafur—sy'n golygu y caiff pobl eu hanfon yn ôl i'r sefyllfa y daethant ohoni ar ôl eu trin—drwy roi blaenoriaeth i gael gwerth am arian a gwaith amlasiantaethol go-iawn cyn rhyddhau unrhyw un ar ôl ei drin."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech