Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Isherwood: Honouring the police pay award

Speech to the National Assembly for Wales.

"I am proud to propose the motion and amendment 1. I am sure that amendment 2 in the name of Carwyn Jones is sincerely meant, otherwise I would interpret the Assembly Government's actions as a betrayal of the men and women of the police service throughout Wales and the United Kingdom. Hundreds of serving officers have e-mailed me urging support for amendment 1, and thousands have e-mailed Members across the Chamber with the same plea. Do not betray them.

Yesterday, members of the Police Federation of England and Wales came to the Assembly to meet us. We were told that the umbilical cord of the special relationship between the police and Government has been cut. Its England and Wales general secretary, John Francis, stated his belief that the National Assembly for Wales could be an important stepping stone for the police and that the UK Government listens to devolved Government. He should know, because he has been negotiating directly with the Home Secretary. He stressed to us that if the Assembly were to come out in collective support for the police, it would make a big contribution to their campaign. He appealed to Labour and Plaid Cymru Members to stand by their principles and vote with integrity.

For 28 years, the annual increase in police pay was linked to pay in the private sector by an Office of Manpower Economics index. It was simple, fair and transparent. The police accepted it, even when the linkage meant lower pay rises than in the public sector. However, they state that the Government is now turning this around to suit itself by proposing a linkage with a basket of cherry-picked public sector pay settlements following two years of public pay sector constraint. The Home Secretary is now trying to get them into negotiations on a three-year deal but, as they state, they have had an effective and fair 28-year deal. The Wales chief constable stated:

'For the whole of my service… we have had harmonious industrial relations in the police, following a landmark national pay agreement in 1979…. No-one joins the police to get rich, but we have received the necessary fair deal from every government along the way… Until now… the Home Office, for the first time ever, has refused to honour the outcome.'

Such pay rises, even during the difficult economic times of the 1970s and 1980s, were honoured by successive Governments. In 2007, the business case for 3.9 per cent was put to the police negotiating board and to the independent arbitration. The index used to judge police pay for many years recommended 3.3 per cent. In 2007, the independent arbiters recommended 2.5 per cent. The Police Federation of England and Wales went into that arbitration in the full knowledge that it will be bound by that decision of 2.5 per cent. However, the Home Secretary refused to honour the pay award in full, reducing its value to 1.9 per cent. In contrast, civilian police community support officers will be getting their pay award backdated.

This issue, in many ways, as the federation says, is not about pay, as the sums involved are small; it is about the covenant that is central to the working relationship between politicians and the police and the trust that they invest in each other, for, without that, it says, we would not have an effective police service.

Police officers regularly put themselves at risk to protect others. Their private and family lives are restricted. They are accountable for their actions at all times, on or off duty. On 23 January, 22,000 police officers marched through London; 180 of those came from my region of north Wales, illustrating the strength of their view. They received genuine cross-party support. Twenty-two Welsh MPs, from all parties, have signed an early day motion in their support. One officer told me, 'Thank you. As a born and bred Welshman, I was starting to feel let down by the Welsh Assembly. I have been a police officer for 20 years and have never seen police conditions so bad'. Another said, 'Many thanks. As secretary of the inspectors' branch board of the police federation, I shall circulate the response to my membership and other colleagues'.

The Police Federation of England and Wales has described a letter from the Home Secretary to the Chancellor as a truly dishonourable move, adding that, despite assurances that there would be full consultation before any decision was made, it was clear that the Home Secretary had already decided on a pay review body. It has also noted that the teachers' pay award blows out of the water the Government's spin that awards above 2 per cent will fuel inflation.

The new Secretary of State for Wales, Paul Murphy, has noted that most police authorities have budgeted for the recommended 2.5 per cent. North Wales Police Authority has written to the Home Secretary, stating that the necessary funds to meet the pay award from 1 September are already included in its budget. The chair of the North Wales Police superintendents association tells me that morale has been knocked and that officers and family and friends will look closely at the support, or otherwise, given by their local elected representatives. As one police officer stated yesterday—I will conclude with this—'I ask that you support amendment 1 and show that at least Assembly Members can act with honour, no matter what party you are from'. Please ponder that."

"Yr wyf yn falch o'r cyfle i gyflwyno'r cynnig a gwelliant 1. Yr wyf yn siwr bod gwelliant 2 yn enw Carwyn Jones yn un digon diffuant, fel arall byddwn yn dehongli gweithredoedd Llywodraeth y Cynulliad fel rhai sy'n bradychu dynion a menywod y gwasanaeth heddlu ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig. Mae cannoedd o swyddogion wedi anfon negeseuon e-bost ataf yn erfyn am gefnogaeth i welliant 1, ac mae miloedd wedi anfon e-bost at Aelodau ar draws y Siambr gyda'r un cais. Peidiwch â'u bradychu.

Ddoe, daeth aelodau Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr i'r Cynulliad i'n cyfarfod. Dywedwyd wrthym fod llinyn bogail y berthynas arbennig rhwng yr heddlu a'r Llywodraeth wedi'i dorri. Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y Ffederasiwn dros Gymru a Lloegr, John Francis, ei fod yn credu y gallai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod yn gyfrwng pwysig i'r heddlu a bod Llywodraeth y DU yn gwrando ar Lywodraethau datganoledig. Dylai wybod hynny, oherwydd ei fod wedi bod yn negodi'n uniongyrchol gyda'r Ysgrifennydd Gwladol. Pwysleisiodd wrthym petai'r Cynulliad yn mynegi ei gefnogaeth gyfunol i'r heddlu, y byddai hynny'n gyfraniad mawr at eu hymgyrch. Apeliodd at Aelodau Llafur a Phlaid Cymru i lynu wrth eu hegwyddorion a phleidleisio gyda'u cydwybod.

Ers 28 o flynyddoedd, mae'r cynnydd blynyddol yng nghyflog yr heddlu wedi'i gysylltu â chyflogau yn y sector preifat drwy Fynegai Swyddfa Economeg y Gweithlu. Yr oedd hynny'n syml, yn deg ac yn dryloyw. Yr oedd yr heddlu'n derbyn hynny, hyd yn oed os oedd y cysylltiad hwnnw'n golygu codiadau cyflog is nag yn y sector cyhoeddus. Fodd bynnag, dywedant fod y Llywodraeth yn awr yn gwyrdroi hyn i blesio'i hun drwy gynnig cysylltiad gyda basged o setliadau cyflog yn y sector cyhoeddus sydd wedi'u dethol yn ofalus yn dilyn dwy flynedd o gyfyngu cyflogau'r sector cyhoeddus. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awr yn ceisio eu cael i negodi ar gytundeb tair blynedd ond, fel y dywedasant, maent wedi cael cytundeb effeithiol a theg am 28 o flynyddoedd. Meddai Prif Gwnstabl o Gymru:

Yn ystod fy nghyfnod yn yr heddlu... yr ydym wedi mwynhau cysylltiadau diwydiannol da yn yr heddlu, yn dilyn cytundeb cyflog cenedlaethol pwysig yn 1979... Nid oes neb yn ymuno â'r heddlu i fod yn gyfoethog, ond yr ydym wedi cael y fargen deg angenrheidiol gan bob llywodraeth ar hyd y daith... Tan hyn... mae'r Swyddfa Gartref, am y tro cyntaf erioed, wedi gwrthod derbyn y canlyniad.

Yr oedd codiadau cyflog o'r fath, hyd yn oed yn ystod y caledi economaidd yn y 1970au a'r 1980au, yn cael eu hanrhydeddu gan bob Llywodraeth. Yn 2007, cyflwynwyd yr achos busnes am 3.9 y cant i fwrdd negodi'r heddlu ac i'r cyflafareddwyr annibynnol. Argymhellodd y mynegai a ddefnyddiwyd i bennu cyflog yr heddlu am flynyddoedd lawer gynnydd o 3.3 y cant. Yn 2007, argymhellodd y cyflafareddwyr annibynnol 2.5 y cant. Aeth Ffederasiwn yr Heddlu Cymru a Lloegr i'r cyflafareddiad hwnnw gan wybod yn iawn y byddai'n rhwym i dderbyn y penderfyniad hwnnw o 2.5 y cant. Fodd bynnag, gwrthododd yr Ysgrifennydd Cartref anrhydeddu'r dyfarniad cyflog yn llawn, gan ostwng ei werth i 1.9 y cant. Mewn gwrthwyneb i hyn, bydd swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu sifil yn derbyn dyfarniad cyflog wedi'i ôl-ddyddio.

Nid yw'r mater hwn, mewn llawer ffordd, fel y dywed y ffederasiwn, yn ymwneud â chyflog yn unig, gan fod y symiau dan sylw'n fach; mae'n ymwneud â'r cyfamod sy'n hanfodol i'r berthynas waith rhwng gwleidyddion a'r heddlu a'r ymddiriedaeth rhyngddynt, oherwydd, heb hynny, meddent, ni fyddai gennym wasanaeth heddlu effeithiol.

Mae swyddogion heddlu'n rhoi'u hunain mewn perygl i amddiffyn pobl eraill yn rheolaidd. Cyfyngir eu bywydau preifat a'u bywydau teuluol. Maent yn gyfrifol am eu gweithredoedd bob amser, wrth eu gwaith neu oddi wrtho. Ar 23 Ionawr, gorymdeithiodd 22,000 o swyddogion heddlu drwy Lundain; deuai 180 o'r rheini o fy rhanbarth i, Gogledd Cymru, gan ddangos cryfder eu barn. Cawsant gefnogaeth drawsbleidiol wirioneddol. Mae dau ar hugain o ASau Cymru, o bob plaid, wedi llofnodi cynnig cynnar-yn-y-dydd i'w cefnogi. Dywedodd un swyddog wrthyf, 'Diolch ichi. Fel un a aned ac a fagwyd yng Nghymru, yr wyf yn dechrau teimlo bod y Cynulliad yn fy siomi. Bûm yn swyddog heddlu ers 20 mlynedd ac ni welais erioed amodau'r heddlu cynddrwg'. Dywedodd un arall, 'Diolch o galon. Fel ysgrifennydd bwrdd cangen arolygwyr ffederasiwn yr heddlu, byddaf yn cylchredeg yr ymateb at fy aelodau ac at gydweithwyr eraill'.

Mae Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr wedi disgrifio llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Cartref at y Canghellor fel cam gwirioneddol gywilyddus, gan ychwanegu ei bod yn amlwg bod yr Ysgrifennydd Cartref eisoes wedi penderfynu ar gorff adolygu cyflogau, er gwaethaf sicrwydd y ceid ymgynghoriad llawn cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Mae hefyd wedi sylwi bod y dyfarniad cyflog i'r athrawon wedi dangos diffyg hygrededd sbin y Llywodraeth y bydd dyfarniadau uwchlaw 2 y cant yn megino chwyddiant.

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol newydd, Paul Murphy, wedi sylwi bod y rhan fwyaf o awdurdodau'r heddlu wedi cyllidebu ar gyfer y 2.5 y cant a argymhellwyd. Mae Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, gan nodi bod yr arian angenrheidiol i dalu'r dyfarniad cyflog o 1 Medi ymlaen eisoes wedi'i gynnwys yn ei gyllideb. Dywed cadeirydd cymdeithas uwch-arolygwyr Heddlu Gogledd Cymru wrthyf bod morâl wedi cael ergyd ac y bydd swyddogion a theuluoedd a chyfeillion yn edrych yn ofalus ar y gefnogaeth, neu beth bynnag arall, a rodda eu cynrychiolwyr etholedig lleol. Fel y dywedodd un swyddog heddlu ddoe—gorffennaf gyda hwn—'Gofynnaf ichi gefnogi gwelliant 1 a dangos y gall o leiaf Aelodau'r Cynulliad weithredu gydag anrhydedd, ni waeth o ba blaid yr ydych'. Ystyriwch hynny os gwelwch yn dda."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech