Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Cairns: Closing the education funding gap

Speech to the National Assembly for Wales.

"The purpose of this motion is to call for a clear timetable for closing the funding gap between schools in Wales and England. Given that the Welsh Assembly Government has not tabled any amendments to the motion and in view of the fact that Plaid Cymru has gained an enormous amount of respect over the past eight years by working with us and the Liberal Democrats on exposing this important policy area, I assume that the Government must be supporting the motion.

In the first instance, let us be clear about the funding gap. In Wales, we spend £4,610 per pupil, but in England the figure is £4,965, which is a gap of £355 per pupil. I have no doubt that the Labour Minister will claim that London is a special case and that we need to exclude London weighting in this debate.

It will be interesting to note whether Plaid Cymru policy has changed in this respect, because it used to be wholly supportive of our line that London be included in the debate, as we were of its line.

Although I do not accept the argument in favour of excluding London from the figures for a minute, to show you how reasonable we are, I will tell you that, even if you exclude London, there is still a spending gap of £202 per pupil in England, with Wales coming off as the poorer relation. These independent data and the data compared on a like-for-like basis amount to a shortfall of £168 million if we include London and of £96 million if we do not.

In view of the fact that the top three priorities of the Labour Party when it first came to power were 'education, education, education', I hate to think what the funding gap would be between schools in Wales and England if schools had been given a lower priority.

Research published over the past few days highlights an extremely worrying picture of the standards of education in Wales. In spite of the rhetoric of the Welsh Assembly Government over the past eight years, the outcomes of its policies and funding found in the latest reports are nothing short of devastating.

The Programme for International Student Assessment report shows that Wales is performing far worse than the other home nations in mathematics and reading, and is of average performance at science. When we compare that with performance internationally, we find that we are considered to be at the same level as Croatia and Azerbaijan, low down on the league table.

The sad fact is that a typical five-year-old entering education when Labour came to power is relatively worse off in educational achievement terms than his or her counterparts in other countries across the United Kingdom and across the world, and is worse off than would have been the case previously.

Professor David Reynolds, an independent educationalist, called the data 'shocking' and said that spending less in Wales, compared with England and the rest of the world, was a key element. Let us not forget that Professor David Reynolds acts on behalf of the Welsh Assembly Government on many fronts.

Clearly, there are huge questions over the policy on this, and we recognise that funding is only part of the answer, albeit a significant part. We look to our colleagues in all parties to recognise the impact of such a funding gap.

I look to Plaid members in particular, because we all remember the principled stance its members have taken in the past on the importance of this issue—they often led the calls to close the funding gap. I cannot imagine that respected individuals like Gareth Jones, who has first-hand experience in this area, Janet Ryder, Helen Mary Jones and Dai Lloyd, or, indeed, any of the Assembly Members opposite are happy with the current situation.

I was talking about principled Assembly Members, and so I assume that we can also look to you, as such a Member, to support the motion. You cannot say that you are happy with the current situation, when you said only a few months ago that you were exceptionally unhappy, and that Plaid Cymru would close that funding gap.

We recall the Plaid Cymru lines when William Graham was the Chair of the former Education, Lifelong Learning and Skills Committee, and when the funding gap and school funding issues were being looked at in detail. The funding gap was one of Plaid Cymru's key priorities, and so we look forward to your support for this motion. This issue goes far beyond party politics, and needs the support of every Member in the Chamber.

Members cannot be happy with the PISA report, and they cannot be happy with the quality of school buildings, the age of school computers, and the out-of-date books our children are using, as compared with England. There was meant to be a devolution dividend.

In education, that should mean at least facilities and resources of an equal standard as those of the other nations across the UK, leading to higher educational standards. We have sought to be reasonable, and we have not compared Wales with Scotland, where the funding gap is even greater. We see England as the first step, and we want to be sensible with resources. You, Labour and Plaid Cymru, are now in the driving seat. We look to you to help the teachers and pupils to get what they deserve.

You know that the draft budget will lead to a wider funding gap. With a 2.2 per cent increase in the local government settlement, and an accepted 2.7 per cent rate of inflation, it does not take a research scientist to calculate that the school funding position will deteriorate. Given that 2.2 per cent, it is important to highlight that—since we are talking about school buildings—inflation in the construction industry is running at between 7 and 10 per cent. There is also a 4 per cent allowance for equal pay.

There are huge capital deficiencies in the draft budget, so we need some answers, and we are looking for leadership. We have heard so much rhetoric over the past eight years from the Labour Party, but today's PISA report and the reality of the funding gap demand that we accept that we are going backwards in real terms.

When we accept that that is the reality of the position, we will at least have some hope of moving forward, particularly if the Assembly Members who stood at the election on that principled position continue that standpoint when they vote in this motion."

"Pwrpas y cynnig hwn yw galw am amserlen glir i gau'r bwlch cyllido rhwng ysgolion yng Nghymru a Lloegr. Ac ystyried nad yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyflwyno unrhyw welliannau i'r cynnig ac yn wyneb y ffaith bod Plaid Cymru wedi ennill llawer iawn o barch dros yr wyth mlynedd diwethaf drwy weithio gyda ni a'r Democratiaid Rhyddfrydol i amlygu'r maes polisi pwysig hwn, yr wyf yn rhagdybio ei bod yn rhaid bod y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig.

Yn y lle cyntaf, gadewch inni fod yn glir am y bwlch cyllido. Yng Nghymru, yr ydym yn gwario £4,610 y disgybl, ond yn Lloegr mae'r ffigur yn £4,965, sy'n fwlch o £355 y disgybl. Nid wyf yn amau o gwbl na fyddai'r Gweinidog Llafur yn honni bod Llundain yn achos arbennig a bod angen inni eithrio lwfans Llundain o'r ddadl hon.

Bydd yn ddiddorol gweld a yw polisi Plaid Cymru wedi newid yn y cyswllt hwn, oherwydd arferai fod yn llwyr gefnogol o'n dadl ni y dylai Llundain gael ei chynnwys yn y ddadl, fel yr oeddem ni o'i dadl hi. Er nad wyf yn derbyn y ddadl o blaid eithrio Llundain o'r ffigurau am funud, i ddangos ichi mor rhesymol ydym, dywedaf wrthych, hyd yn oed os eithriwch chi Lundain, mae bwlch gwariant o £202 y disgybl yn Lloegr yn dal, ac nid yw Cymru ond y berthynas dlawd. Mae'r data annibynnol hyn a'r data a gymharwyd ar sail tebyg am ei debyg yn rhoi diffyg o £168 miliwn os ydym yn cynnwys Llundain ac o £96 miliwn os nad ydym yn gwneud hynny.

Yn wyneb y ffaith mai tair prif flaenoriaeth y Blaid Lafur pan ddaeth i rym gyntaf oedd 'addysg, addysg, addysg', mae'n gas gennyf feddwl beth fyddai'r bwlch cyllido rhwng ysgolion yng Nghymru a Lloegr petai blaenoriaeth is wedi cael ei rhoi i ysgolion.

Mae ymchwil a gyhoeddwyd dros y dyddiau diwethaf yn dangos darlun o'r safonau addysg yng Nghymru sy'n peri pryder mawr. Er gwaethaf rhethreg Llywodraeth Cynulliad Cymru dros yr wyth mlynedd diwethaf, nid yw canlyniadau ei pholisïau a'i chyllid, fel y'u gwelir yn yr adroddiadau diweddaraf, yn ddim byd llai na thorcalonnus.

Mae adroddiad y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn dangos bod Cymru'n perfformio'n llawer gwaeth na chenhedloedd eraill y DU mewn mathemateg a darllen, a chanolig yw ei pherfformiad mewn gwyddoniaeth. Pan gymharwn ni hynny â pherfformiadau rhyngwladol, gwelwn ein bod yn cael ein hystyried ar yr un lefel â Chroatia ac Azerbaijan, yn isel yn y tabl cynghrair.

Y ffaith drist yw bod plentyn pum oed nodweddiadol oedd yn dechrau ar ei addysg pan ddaeth Llafur i rym yn waeth ei fyd mewn termau cymharol na'i gymheiriaid neu ei chymheiriaid mewn gwledydd eraill ar draws y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd, ac mae'n waeth ei fyd nag y byddai wedi bod cyn hynny.

Galwodd yr Athro David Reynolds, addysgwr annibynnol, y data yn 'ysgytiol' a dywedodd fod gwario llai yng Nghymru, o'i chymharu â Lloegr a gweddill y byd, yn elfen allweddol. Peidied ni ag anghofio bod yr Athro David Reynolds yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn llawer cyfeiriad.

Yn amlwg, mae cwestiynau enfawr ynglyn â'r polisi ar hyn, ac yr ydym yn cydnabod nad yw cyllid ond rhan o'r ateb, er ei fod yn rhan arwyddocaol. Disgwyliwn i'n cyd-Aelodau ym mhob plaid gydnabod effaith bwlch cyllido o'r fath. Disgwyliwn hynny gan aelodau'r Blaid yn arbennig, oherwydd mae pawb ohonom yn cofio'r safiad egwyddorol y mae ei haelodau wedi'i gymryd yn y gorffennol ynglyn â phwysigrwydd y mater hwn—yr oeddent yn aml yn arwain y galwadau am gau'r bwlch cyllido.

Ni allaf ddychmygu bod unigolion uchel eu parch fel Gareth Jones, sydd â phrofiad personol yn y maes hwn, Janet Ryder, Helen Mary Jones a Dai Lloyd, nac, yn wir, unrhyw rai o'r Aelodau Cynulliad gyferbyn yn hapus â'r sefyllfa fel y mae.

Yr oeddwn yn siarad am Aelodau Cynulliad egwyddorol, ac felly yr wyf yn cymryd y gallwn ddisgwyl i chi hefyd, fel Aelod o'r fath, gefnogi'r cynnig. Ni allwch ddweud eich bod yn hapus â'r sefyllfa gyfredol, a chithau wedi dweud ychydig fisoedd yn ôl yn unig eich bod yn eithriadol o anhapus, ac y byddai Plaid Cymru yn cau'r bwlch cyllido hwnnw.

Cofiwn safbwyntiau Plaid Cymru pan oedd William Graham yn Gadeirydd y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau blaenorol, a phan oeddem yn edrych yn fanwl ar y bwlch cyllido a materion ynglyn â chyllido ysgolion. Yr oedd y bwlch cyllido yn un o flaenoriaethau allweddol Plaid Cymru, ac felly edrychwn ymlaen at eich cefnogaeth i'r cynnig hwn. Mae'r mater hwn yn mynd ymhell y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid, ac mae angen cefnogaeth pob Aelod yn y Siambr arno.

Ni all Aelodau fod yn hapus ag adroddiad PISA, ac ni allant fod yn hapus ag ansawdd adeiladau ysgolion, oed cyfrifiaduron ysgolion, a'r hen lyfrau y mae ein plant yn eu defnyddio, o'u cymharu â Lloegr. Yr oeddem i fod i gael difidend datganoli. Ym maes addysg, dylai hynny o leiaf olygu cyfleusterau ac adnoddau o'r un safon a'r rheini sydd gan y cenhedloedd eraill ar draws y DU, gan arwain at safonau addysgol uwch.

Yr ydym wedi ceisio bod yn rhesymol, ac nid ydym wedi cymharu Cymru â'r Alban, lle mae'r bwlch cyllido'n fwy fyth. Yr ydym yn gweld Lloegr fel y cam cyntaf, ac yr ydym am fod yn synhwyrol gydag adnoddau. Chi, Lafur a Phlaid Cymru, sydd wrth y llyw yn awr. Yr ydym yn dibynnu arnoch i helpu'r athrawon a'r disgyblion y gael yr hyn y maent yn ei haeddu.

Gwyddoch y bydd y gyllideb ddrafft yn arwain at fwlch cyllido ehangach. Gyda chynnydd o 2.2 y cant yn setliad llywodraeth leol, a chyfradd chwyddiant gydnabyddedig o 2.7 y cant, nid yw'n rhaid wrth wyddonydd ymchwil i gyfrifo y bydd sefyllfa gyllido ysgolion yn dirywio. Ac ystyried y 2.2 y cant hwnnw, mae'n bwysig amlygu—gan ein bod yn siarad am adeiladau ysgolion—bod chwyddiant yn y diwydiant adeiladu rhwng 7 a 10 y cant. Mae lwfans o 4 y cant hefyd ar gyfer cyflogau cyfartal.

Mae diffygion cyfalaf enfawr yn y gyllideb ddrafft, felly mae angen atebion arnom, ac yr ydym yn chwilio am arweiniad. Yr ydym wedi clywed llawer o rethreg gan y Blaid Lafur dros yr wyth mlynedd diwethaf, ond heddiw mae adroddiad PISA a realiti'r bwlch cyllido'n mynnu ein bod yn derbyn ein bod yn mynd ar yn ôl mewn termau real.

Pan dderbyniwn ni mai dyna realiti'r sefyllfa, bydd gennym ryw obaith o leiaf o symud ymlaen, yn enwedig os bydd Aelodau Cynulliad a safodd yn yr etholiad ar y safbwynt egwyddorol hwnnw'n parhau â'r safiad hwnnw pan fyddant yn pleidleisio ar y cynnig hwn."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech