Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Williams: Welsh farmers deserve support after foot and mouth outbreak

Speech to the National Assembly for Wales.

"The Welsh Conservatives have brought this debate to the Assembly because of how far Wales is lagging behind the rest of Britain in helping livestock farmers to survive the chaos and disruption of movement restrictions, although I must admit that the Minister gave us some welcome news today about the relaxing of some of these restrictions.

On 8 October, in England, the Government announced payments totalling £8.5 million directly into farmers' bank accounts, as well as several million pounds for a welfare disposal scheme and other measures. A fortnight ago, the Scottish Government announced that it would fund a £19 million scheme to pay farmers for breeding ewes in addition to their own welfare scheme, and other support worth an extra £8.5 million. Meanwhile, Welsh farmers are left in limbo, thanks to the Assembly's failure to secure compensation from the Treasury—and I emphasise that it is the Treasury.

As I said earlier, Welsh farmers have been hung out to dry compared with our colleagues in Scotland and England, simply because the Labour-led Assembly Government is content to ignore the plight of the farming industry, despite its colleagues in Westminster being ultimately responsible for the outbreak in the first place.

The Health and Safety Executive's report, as well as an independent review by Professor Spratt, identified Pirbright as the source. They have shown exactly how the disease was released from the laboratory—the live virus was accidentally leaked into a damaged and badly maintained drainage system, and poorly monitored contractors were allowed to take it off-site and into contact with livestock on their vehicles. No-one has disputed this chain of events, especially not the UK Government, which commissioned the reports.

However, the most damning evidence for the UK Government is how its negligent underfunding of the laboratory allowed this sequence of events to occur in the first place. In 2002, the Biotechnology and Biological Sciences Research Council, which oversees the laboratory, warned that the infrastructure was 'shabby' and that it would need long-term support to bring it up to scratch.

As far back as 2003, the Department for Environment, Food and Rural Affairs, Merial and the BBSRC were all in communication over the need to replace the pipework—that was four years ago. Despite this, no work was done, and on two occasions—in February and September—valve failures led to a live virus being pumped straight into a public sewer. That beggars belief.

In January this year, the director of the Institute for Animal Health made a public plea for funding. He said that the institute was being forced to deliver 'a Rolls-Royce service' while being funded for a service at the level of a Ford Cortina. Despite all these warnings, and despite the previous leaks of live virus, DEFRA and the Government continued to license this facility, and, in every year bar one since 2002, cut its budget. What happens if this was anthrax or something else that could get hold of the public, of human beings?

Beyond any doubt, the UK Government and, in particular, the Chancellor at the time, Gordon Brown, who oversaw the sustained underfunding of agricultural science and research, are responsible for releasing the disease. It is this Government's responsibility, through the Treasury, to fund not only the assistance to farmers, but the compensation that they fully deserve. It is not just the farmers who have suffered; there have been knock-on effects all over the country, through the whole rural economy, from the auctioneers to the road hauliers and the small businesses, and even the post offices that depend on farmers for trade.

The UK Government has been pushing the polluter pays principle for years in agriculture and across industry. Does it know what 'the polluter pays' means? I do not believe that it does. It has passed the buck to Wales, when, beyond any doubt, responsibility lies with it. It is rank hypocrisy.

No Welsh budgets should have been cut to fund assistance, which is exactly what happened with the £6.5 million welfare disposal scheme and the £1 million to promote red meat. We welcome those steps by our Minister, but from where is that money coming? This support is much needed and appreciated by the industry, however, it is not the Assembly's responsibility to foot the bill, and I hope, Minister, that you will do your utmost to get a refund for all of Wales's expenditure so far.

Members of the farming community are understandably amazed that Gordon Brown, who has wasted billions of taxpayers' money on consultants and poorly thought-out schemes, often with little or nothing to show for it, is so indifferent to the plight of rural Wales that he even clawed back the £6.5 million that he earmarked. As soon as he realised that he would not win the election, he pulled that £6.5 million back.

Farmers in Wales are in urgent need of assistance, and have been ever since movement restrictions effectively wiped out a year's worth of business, cutting off exports and distorting the home market. Compared with farmers in England and Scotland, farmers in Wales have been disproportionately hit by the movement restrictions because of the traditional way in which stock is reared in the uplands and then moved to the lowlands for further feeding. The fact of the matter is that the longer the Assembly Government fails to press its case with the Treasury, the more Welsh farmers will be pushed to the brink of bankruptcy or of leaving the industry altogether."

"Mae Ceidwadwyr Cymru wedi dod â'r ddadl hon gerbron y Cynulliad oherwydd bod Cymru'n llusgo cymaint ar ôl gweddill Prydain o ran helpu ffermwyr da byw i oroesi'r chwalfa a'r tarfu yn sgîl y cyfyngiadau symud, er bod rhaid imi gyfaddef bod y Gweinidog wedi rhoi rhywfaint o newyddion da inni heddiw ynghylch llacio rhai o'r cyfyngiadau hyn.

Ar 8 Hydref, yn Lloegr, cyhoeddodd y Llywodraeth gyfanswm taliadau o £8.5 miliwn yn syth i gyfrifon banc ffermwyr, yn ogystal â sawl miliwn o bunnoedd ar gyfer cynllun gwaredu (lles) a mesurau eraill. Bythefnos yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y byddai'n cyllido cynllun £19 miliwn i dalu i ffermwyr am famogiaid magu, yn ogystal â'u cynllun lles eu hunain, a chymorth arall sydd werth £8.5 miliwn yn ychwanegol. Yn y cyfamser, mae ffermwyr Cymru'n cael eu gadael yn nhir neb, diolch i fethiant y Cynulliad i sicrhau iawndal gan y Trysorlys—a phwysleisiaf mai sôn am y Trysorlys yr wyf.

Croesawaf y datganiadau diweddar gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig bod gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb moesol am yr achos o'r haint ac am ariannu'r gwaith adfer. Byddai gennyf ddiddordeb clywed a yw unrhyw rai o'i chyd-Weinidogion o'r Blaid Lafur yn rhannu ei barn. Fodd bynnag, ni fydd geiriau cynnes yn ddigon i achub y diwydiant rhag methu. Yr hyn y mae ei angen yw Llywodraeth sy'n barod i ymladd dros fuddiannau Cymru wledig a chyflwyno pecyn iawndal cyflawn gan y Trysorlys. Hyd yma, ysywaeth, ni chafwyd hynny.

Fel y dywedais yn gynharach, mae ffermwyr Cymru wedi cael eu gadael mewn twll o'n cymharu â'n cydweithwyr yn yr Alban a Lloegr, yn syml am fod Llywodraeth y Cynulliad dan arweiniad Llafur yn fodlon anwybyddu trafferthion y diwydiant ffermio, er mai cydweithwyr Llywodraeth y Cynulliad yn San Steffan sy'n gyfrifol yn y pen draw am yr achos o'r haint yn y lle cyntaf. Nododd adroddiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yn ogystal ag adolygiad annibynnol gan yr Athro Spratt, mai Pirbright oedd y ffynhonnell.

Maent wedi dangos yn union sut y rhyddhawyd yr haint o'r labordy—cafodd y firws byw ei ollwng yn ddamweiniol i system ddraenio a oedd wedi cael niwed ac wedi ei chynnal yn wael, a chaniatawyd i gontractwyr a gâi eu monitro'n wael gymryd y firws o'r safle a gadael iddo ddod i gysylltiad â da byw ar eu cerbydau. Nid oes neb wedi dadlau yn erbyn y gadwyn hon o ddigwyddiadau, yn enwedig Llywodraeth y DU, a gomisiynodd yr adroddiadau.

Fodd bynnag, y dystiolaeth fwyaf damniol i Lywodraeth y DU yw'r ffordd y gadawodd i'r dilyniant hwn o ddigwyddiadau ddatblygu yn y lle cyntaf drwy dangyllido'r labordy mewn modd esgeulus. Yn 2002, rhybuddiodd y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, sy'n goruchwylio'r labordy, bod y seilwaith yn 'ddi-raen' ac y byddai angen cymorth hirdymor i ofalu ei fod yn cyrraedd y safon.

Cyn belled yn ôl â 2003, yr oedd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Merial a'r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol i gyd yn cyfathrebu ynghylch yr angen i amnewid y pibellau—yr oedd hynny bedair blynedd yn ôl. Er gwaethaf hyn, ni wnaethpwyd unrhyw waith, ac ar ddau achlysur—ym mis Chwefror a mis Medi—o ganlyniad i fethiant y falfiau cafodd firws byw ei bwmpio'n uniongyrchol i mewn i garthffos gyhoeddus. Mae hynny'n anghredadwy.

Ym mis Ionawr eleni, plediodd cyfarwyddwr y Sefydliad Iechyd Anifeiliaid yn gyhoeddus am gyllid. Dywedodd fod y sefydliad yn cael ei orfodi i gyflawni 'gwasanaeth Rolls-Royce' er iddo gael ei gyllido ar gyfer gwasanaeth ar lefel Ford Cortina. Er gwaethaf yr holl rybuddion hyn, ac er gwaethaf y gollyngiadau firysau byw blaenorol, dal ati wnaeth DEFRA a'r Llywodraeth i drwyddedu'r cyfleuster hwn, ac, ym mhob blwyddyn ac eithrio un ers 2002, dal ati i gwtogi ei chyllideb. Beth fyddai'n digwydd pe bai hyn yn anthracs neu'n rhywbeth arall a allai gael gafael ar y cyhoedd, ar bobl?

Yn ddiau, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ollwng yr haint ac, yn arbennig, y Canghellor ar y pryd, Gordon Brown, a oruchwyliodd dangyllido cyson o ran gwyddoniaeth amaethyddol ac ymchwil. Y Llywodraeth hon, drwy'r Trysorlys, sy'n gyfrifol am gyllido nid yn unig y cymorth i ffermwyr, ond hefyd yr iawndal y maent yn ei lawn haeddu. Nid dim ond y ffermwyr sydd wedi dioddef; cafwyd effeithiau canlyniadol ym mhob cwr o'r wlad, drwy'r holl economi wledig, o'r arwerthwyr i'r cludwyr ar y ffyrdd a'r busnesau bach, a hyd yn oed y swyddfeydd post sy'n dibynnu ar ffermwyr am fasnach.

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gwthio egwyddor y llygrwr sy'n talu ers blynyddoedd mewn amaethyddiaeth ac ar draws diwydiant. A yw'n gwybod beth yw ystyr 'y llygrwr sy'n talu'? Ni chredaf ei bod. Mae wedi bwrw'r cyfrifoldeb ar Gymru, er mai hi oedd yn gyfrifol heb ddim amheuaeth.

Rhagrith llwyr yw hyn. Ni ddylid bod wedi cwtogi unrhyw gyllidebau Cymreig i ariannu cymorth, sef union yr hyn a ddigwyddodd gyda'r cynllun £6.5 miliwn difa er lles a'r £1 miliwn i hyrwyddo cig coch. Yr ydym yn croesawu'r camu hynny gan ein Gweinidog, ond o ble y mae'r arian hwnnw'n dod? Mae dirfawr angen am y cymorth hwn ac fe'i gwerthfawrogir gan y diwydiant; fodd bynnag, nid cyfrifoldeb y Cynulliad yw talu'r bil, a gobeithiaf, Weinidog, y byddwch yn gwneud eich gorau i gael ad-daliad am holl wariant Cymru hyd yma.

Yn ddealladwy, mae aelodau'r gymuned ffermio yn rhyfeddu bod Gordon Brown—sydd wedi gwastraffu biliynau o arian y trethdalwyr ar ymgynghorwyr a chynlluniau nad oedd fawr o feddwl y tu ôl iddynt, ac yn aml heb lawer neu ddim i'w ddangos am hynny—mor ddi-hid ynghylch trafferthion Cymru wledig fel y bu iddo hyd yn oed adfachu'r £6.5 miliwn a glustnodwyd ganddo. Cyn gynted iddo sylweddoli na fyddai'n ennill yr etholiad, tynnodd y £6.5 miliwn hwnnw yn ôl.

Mae angen cymorth ar frys ar ffermwyr yng Nghymru, ac felly y bu arnynt ers i'r cyfyngiadau symud ddileu gwerth blwyddyn o fusnes, gan atal allforion ac ystumio'r farchnad gartref. O'u cymharu â ffermwyr yn Lloegr a'r Alban, mae ffermwyr yng Nghymru wedi'u taro'n anghymesur gan y cyfyngiadau symud oherwydd y ffordd draddodiadol y caiff stoc ei fagu yn yr ucheldir ac yna'i symud i'r iseldir ar gyfer bwydo pellach. Y gwir amdani yw po hiraf y mae Llywodraeth y Cynulliad yn methu hyrwyddo ei hachos gyda'r Trysorlys, y mwyaf y bydd Ffermwyr Cymru'n cael eu gwthio at ymyl methdaliad neu at adael y diwydiant yn gyfan gwbl."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech