Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Burns: Coalition under pressure from spending review

Speech to the National Assembly for Wales.

"Thank you for your statement on the outcomes of the long-awaited comprehensive spending review, which appears to have caused untold confusion in Wales, in conjunction with the pre-budget report.

The three most important issues for us to take from this are the fact that taxes are up, borrowing is up and spending on public services is down. Whether in Wales, England, Scotland or Northern Ireland, let us not forget that that is the bottom line.

The money available over the last decade has been spent, the coffers are empty and we will be paying the price of the spend-and-borrow economy of the last decade for the foreseeable future. How much will be spent?

The Chancellor of the Exchequer thinks that we are getting 2.4 per cent, but you think that it is 1.8 per cent. You have just said that this is not out of line with the long-term trend rate of growth in public spending.

However, over the previous decade, we have had an average of 7 per cent. Now, it is whatever Labour finally agrees, but it will not be in the order of 7 per cent. Minister, what is it to be? Will you please confirm the numbers, as we appear to be missing £260 million?

How can our great nation make up this shortfall? One way would be by growing our economy. You have just said that one of your key early priorities is to stimulate enterprise and business growth to boost employment.

However, this business-unfriendly review will give us precious little opportunity to do that. Not all businesses are an IBM or a Corus—98 per cent of all businesses in Wales employ fewer than 50 people, and they have just been hammered again.

This Government messed about with the rural rate relief scheme so that those who still qualify get 25 per cent less. The post office development fund is dead in the water. Now, these self same businesses are facing the prospect of an additional £200 a year on their business rates.

In 'One Wales', your administration makes a proud claim that it will introduce innovative programmes to help people back into work. Tell me, Minister, how will the strictures of the comprehensive spending review help to fulfil that programme?

This Government and the Westminster Government would do well to remember that 98 per cent of the work providers are small businesses that are already sorely pressed, and now, when those entrepreneurs look to sell their businesses, be it a trade sale, sale to staff or family member, they will be clobbered by having to pay 18 per cent tax, even though a plumber, for example, may have had his plumbing business for 20 years.

Mind you, Gordon Brown's City friends must be laughing; they can trade £1 million worth of shares and only pay 18 per cent in tax, rather than 40 per cent. They are laughing at the expense of the people of Wales.

Let us come back to the plumber. Darling and co promised to increase the tax on company vehicles for green reasons. That is admirable, but pity the poor plumber, with his two vans, his workforce of four, based in a little lock-up in a rural part of Wales.

How exactly will he be able to use public transport to carry out his business? His costs will rise again in what is another blow to those small businesses that cannot keep absorbing costs. Minister, how can we help these businesses? You say that a key early priority will be that of enhancing regional and national transport, but transport infrastructure is highly expensive, and I do not see how you will be able to afford anything significant on this issue.

Is the CSR another blow to our beleaguered health service? The NHS in England could not spend all its money, so it will not be getting as much; that means that we will not be getting as much, either. Can you assure us that the ratios used in England will not be translated to Wales, so that we can protect our NHS as best we can, rather than have to cut and cull even more?

This brings me to the nub of the issue. The majority of the issues in 'One Wales' are based on initiatives in the health service. How will the Minister fund them now? Which of the promises in 'One Wales' will have to bite the dust?

Will it be free prescriptions, or perhaps long-term provision for stroke and diabetes patients? Why was 'One Wales' not costed before all this? If even the most lacklustre council can budget ahead, why, oh why, can the CSR be used as an excuse not to publish draft budgets?

Is it to do with the mighty disagreement that must be going on between the two uneasy coalition partners as to what policies must go?

Elfyn Llwyd said this morning that this is the worst settlement in the history of the devolved Assembly. Minister, I finally find myself in the position of agreeing with a member of Plaid—will you?"

"Diolch ichi am eich datganiad am ganlyniadau'r adolygiad cynhwysfawr o wariant hirddisgwyliedig, adolygiad sydd, yn ôl bob golwg, wedi peri dryswch aruthrol yng Nghymru, ochr yn ochr â'r adroddiad rhag-gyllidebol.

Y tri mater pwysicaf inni eu cofio o hyn yw'r ffaith bod trethi wedi cynyddu, bod benthyca wedi cynyddu a bod gwariant ar wasanaethau cyhoeddus wedi gostwng. Boed yng Nghymru, yn Lloegr, yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, rhaid inni beidio ag anghofio mai dyna ddiwedd y gân.

Mae'r arian a oedd ar gael yn ystod y degawd diwethaf wedi cael ei wario, mae'r coffrau'n wag a byddwn yn talu pris economi gwario-a-benthyca'r degawd diwethaf hyd y gellir rhagweld. Faint a gaiff ei wario? Mae Canghellor y Trysorlys yn meddwl ein bod yn cael 2.4 y cant, ond yr ydych chi'n meddwl mai 1.8 y cant ydyw.

Yr ydych newydd ddweud nad yw hwn yn anghyson â chyfradd duedd tymor hir y twf mewn gwariant cyhoeddus. Fodd bynnag, dros y degawd diwethaf, cawsom 7 y cant ar gyfartaledd. Yn awr, mae'n beth bynnag y cytuna Llafur arno'n derfynol, ond ni fydd yn agos at 7 y cant. Weinidog, beth a fydd? A wnewch gadarnhau'r ffigurau, oherwydd mae'n ymddangos ein bod £260 miliwn yn brin?

Sut y gall ein cenedl wych gywiro'r diffyg hwn? Un ffordd fyddai drwy feithrin ein heconomi ein hunain. Yr ydych newydd ddweud mai un o'ch blaenoriaethau cynnar allweddol yw cymell twf mentrau a busnesau er mwyn hybu cyflogaeth. Fodd bynnag, ychydig iawn o gyfle i wneud hynny a gawn gan yr adolygiad anghyfeillgar hwn i fusnesau. Nid IBM na Corus yw pob busnes—mae 98 y cant o holl fusnesau Cymru'n cyflogi llai na 50 o bobl, ac maent newydd gael eu dyrnu eto.

Bu'r Llywodraeth hon yn potsian gyda'r cynllun rhyddhad ardrethi gwledig fel y bydd y rheini sy'n dal yn gymwys o hyd yn cael 25 y cant yn llai. Mae'r gronfa datblygu swyddfeydd post ar ei gwely angau. Yn awr, mae'r un busnesau hyn yn wynebu addewid o £200 y flwyddyn yn ychwanegol ar eu hardrethi busnes.

Yn 'Cymru'n Un' mae'ch gweinyddiaeth yn haeru'n falch y bydd yn cyflwyno rhaglenni arloesol i helpu pobl i ddychwelyd i waith. Dywedwch wrthyf, Weinidog, sut y bydd cyfyngiadau'r adolygiad cynhwysfawr o wariant yn helpu i gyflawni'r rhaglen honno?

Byddai'n dda i'r Llywodraeth hon ac i Lywodraeth San Steffan gofio mai busnesau bach sydd eisoes yn cael eu gwasgu'n ddirfawr yw 98 y cant o ddarparwyr y gwaith, ac yn awr, pan fydd yr entrepreneuriaid hynny eisiau gwerthu'u busnesau, boed hynny drwy'u gwerthu'n fasnachol, eu gwerthu i staff neu aelodau teulu, cânt eu taro drwy orfod talu treth ar gyfradd o 18 y cant, er bod plymwr, er enghraifft, o bosibl wedi bod yn berchen ar ei fusnes ers 20 mlynedd.

Cofiwch chi, mae Gordon Brown a'i gyfeillion yn sicr o fod yn chwerthin; gallant hwy brynu a gwerthu gwerth £1 miliwn o gyfranddaliadau a thalu 18 y cant mewn treth, yn hytrach na 40 y cant. Maent yn chwerthin ar draul pobl Cymru.

Gadewch inni ddychwelyd at y plymwr.

Addawodd Darling a'i griw gynyddu'r dreth ar gerbydau cwmnïau am resymau gwyrdd. Mae hynny'n gampus, ond bechod dros y plymwr druan, gyda'i ddwy fan, ei weithlu o bedwar, sydd yn gweithio mewn adeilad bychan yng nghefn gwlad Cymru. Sut yn union y bydd ef yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i wneud ei waith?

Bydd ei gostau ef yn cynyddu eto yn yr hyn sy'n ergyd arall i'r busnesau bach hynny na allant barhau i lyncu'r costau. Weinidog, sut y gallwn helpu'r busnesau hyn?

Yr ydych yn dweud mai un flaenoriaeth gynnar allweddol fydd gwella trafnidiaeth ranbarthol a chenedlaethol, ond mae seilwaith trafnidiaeth yn ddrud iawn, ac ni welaf sut y byddwch yn gallu fforddio dim byd sylweddol yn y cyswllt hwn.

A yw'r adolygiad cynhwysfawr o wariant yn ergyd arall i'n gwasanaeth iechyd sydd eisoes mewn sefyllfa anodd iawn? Ni allai'r gwasanaeth iechyd gwladol yn Lloegr wario'i arian i gyd, felly ni fydd yn cael cymaint; mae hynny'n golygu na chawn ninnau gymaint, ychwaith.

A allwch ein sicrhau na fydd y cymarebau a ddefnyddiwyd yn Lloegr yn cael eu trosi i Gymru, fel ein bod yn gallu gwarchod ein gwasanaeth iechyd gwladol gystal ag y gallwn, yn hytrach na gorfod cwtogi a thocio mwy fyth?

Daw hyn â mi at hanfod y mater. Mae mwyafrif materion 'Cymru'n Un' yn seiliedig ar gynlluniau yn y gwasanaeth iechyd. Sut y bydd y Gweinidog yn eu cyllido yn awr? Pa rai o'r addewidion yn 'Cymru'n Un' y bydd yn gorfod rhoi'r gorau iddynt?

Ai presgripsiynau am ddim, ynteu darpariaeth tymor hir i gleifion strôc a chlefyd y siwgr efallai? Pam na chostiwyd 'Cymru'n Un' cyn hyn oll? Os gall y cyngor mwyaf di-nod gyllidebu ymlaen llaw, pam, o pam, y gellir defnyddio'r adolygiad cynhwysfawr o wariant fel yr esgus dros beidio â chyhoeddi cyllidebau drafft?

A oes a wnelo hyn â'r anghytuno mawr sy'n sicr o fod yn digwydd rhwng dau bartner anesmwyth y glymblaid am ba bolisïau sy'n gorfod diflannu?

Dywedodd Elfyn Llwyd y bore yma mai hwn yw'r setliad gwaethaf yn hanes y Cynulliad datganoledig. Weinidog, yr wyf o'r diwedd yn fy nghael fy hun mewn sefyllfa lle'r wyf yn cytuno ag aelod o'r Blaid—a wnewch chi?"

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech