Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Ramsay: A fair deal for local authorities in Wales

Speech to the National Assembly for Wales.

"It is too easy to underestimate the vital role that Wales's 22 local authorities play in implementing the policies determined here. Local authorities are at the coal face, and they are the ones who have to make things work.

It is easy for the Assembly to provide the direction—in an ideal world—but local authorities have to get things done. We all understand and accept that there is always going to be a limited amount of money in the system, and there are many examples of local authorities getting it wrong, but there are also examples of good practice, which I want to highlight today.

Local authorities are the deliverers of policy and face very real problems. We, as politicians, may consider certain things to be very logical and straightforward, but outside the calm of the Chamber—or lack of calm, as the case may be—on the streets and in the provinces, these things can assume a life of their own. I will concentrate on two aspects of this debate. The first is the funding issue, and the second is the way in which local government is set up to maintain services.

The funding of local government in terms of support from the Assembly is a key issue. I do not want to talk in too much detail about the issue of changing the form of local taxation—that is a debate in itself—but it needs to be mentioned. There would be big problems associated with moving from a property-based council tax to other forms of taxation that we have previously debated.

The key point with which we must deal is the fact that council tax has more than doubled since 1997, and there has been an increase of over 60 per cent since the Assembly was established in 1999. This is one of the reasons for the negative view held by many people, certainly among my constituents, as is evident from my postbag.

Council tax bills have doubled over the last 10 years, and that is the nub of the problem. The Assembly Government bears a large amount of responsibility for the loss of trust in local taxation.

Despite the Government's promises, revaluation was not cost neutral, council tax yields rose by about 4 per cent in terms of local government revenue. The Government let people down on that issue, and that is why we are paying the price today.

Council tax levels, as a proportion of local government funding, stand at about 20 per cent. There is also the issue of the amount of support coming from the Assembly Government through the revenue support grant.

If there is to be any review of that policy in the future, we should see a move toward performance incentive grant funding, which would be more efficient and would give the taxpayer the greater value for money that they expect and deserve.

However, we know that it is not just a question of money; it is also a question of stability to maintain services. The Beecham review looked at the different ways in which that can be achieved. Local government has seen many changes over the last 20 years, so it deserves some stability.

Local service boards may have some flaws, but they have done their part in trying to put citizens at the centre of a process—that is where they should be. We can look at ways of improving that, but, basically, the money must be there and we must see the citizen at the centre of the process, not at its periphery.

More and more responsibilities have been passed on to local authorities without additional funding. The teachers' workload agreement is a classic example, and the free school breakfast scheme was passed on without a full assessment of its impact.

The Liberal Democrat amendments to this motion highlight the deep concerns in our local authorities at the moment. I know that they are concerned about a lack of direction on a whole range of issues, mainly because of a lack of certainty coming from the Assembly."

"Mae'n rhy hawdd bychanu'r rôl hanfodol y mae'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru'n ei chwarae wrth weithredu'r polisïau y cytunir arnynt yma. Mae'r awdurdodau lleol yn ei chanol hi, a hwy sy'n gorfod sicrhau bod popeth yn gweithio. Mae'n ddigon hawdd i'r Cynulliad roi cyfarwyddyd—mewn byd perffaith—ond yr awdurdodau lleol sy'n gorfod gwneud y gwaith.

Yr ydym i gyd yn deall ac yn derbyn bod yn rhaid cyfyngu ar yr arian sydd ar gael yn y system bob amser, ac mae llawer o enghreifftiau lle mae pethau'n mynd o chwith yn yr awdurdodau lleol, ond ceir hefyd enghreifftiau o arferion da, a dyna'r hyn yr wyf am dynnu sylw ato heddiw.

Awdurdodau lleol yw'r cyrff sy'n rhoi polisïau ar waith ac maent yn wynebu problemau real iawn. Efallai ein bod ni, fel gwleidyddion, yn credu bod rhai pethau'n rhesymegol ac yn syml iawn, ond y tu allan i lonyddwch y Siambr—neu ddiffyg llonyddwch, fel sy'n gallu digwydd weithiau—ar y strydoedd ac yn y rhanbarthau, gall y pethau hyn fod yn dra gwahanol. Yr wyf am ganolbwyntio ar ddwy agwedd ar y ddadl hon. Cyllido yw'r cyntaf, a'r ffordd y mae llywodraeth leol wedi cael ei sefydlu i gynnal gwasanaethau yw'r ail.

Mae cyllid llywodraeth leol o ran cefnogaeth gan y Cynulliad yn fater holl bwysig. Nid wyf am fynd i ormod o fanylder ynghylch newid ffurf trethi lleol—mae honno'n ddadl ynddi'i hun—ond rhaid ei grybwyll.

Byddai problemau mawr yn codi yn sgil symud oddi wrth dreth gyngor sy'n seiliedig ar eiddo i fathau eraill o drethi yr ydym wedi eu trafod eisoes. Y pwynt allweddol y mae'n rhaid inni ei ystyried yw'r ffaith bod y dreth gyngor wedi mwy na dyblu er 1997, a gwelwyd cynnydd o dros 60 y cant ers sefydlu'r Cynulliad ym 1999. Dyma un o'r rhesymau dros y farn negyddol y mae llawer o bobl yn ei choleddu, yn sicr ymhlith fy etholwyr i, fel sy'n amlwg yn y llythyrau yr wyf yn eu derbyn.

Mae biliau'r dreth gyngor wedi dyblu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, a dyna hanfod y broblem. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gyfrifol i raddau helaeth iawn am golli ymddiriedaeth pobl mewn trethi lleol.

Er gwaethaf addewidion y Llywodraeth, nid oedd ailbrisio'n gost-niwtral, bu cynnydd o tua 4 y cant yn y swm a godir drwy'r dreth gyngor o ran refeniw llywodraeth leol. Mae'r Llywodraeth wedi bradychu pobl yn hyn o beth, a dyna pam yr ydym yn talu'r pris heddiw.

Mae lefelau'r dreth gyngor, fel cyfran o gyllid llywodraeth leol, oddeutu 20 y cant. Rhaid hefyd ystyried faint o gefnogaeth sy'n dod o gyfeiriad Llywodraeth y Cynulliad drwy'r grant cynnal refeniw. Os yw'r polisi hwnnw'n mynd i gael ei adolygu yn y dyfodol, dylem weld mwy o bwyslais ar gyllid grant cymell perfformiad, gan y byddai hynny'n fwy effeithlon a byddai'n rhoi gwell gwerth am arian i'r trethdalwyr, rhywbeth maent yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu.

Fodd bynnag, gwyddom nad yw hyn yn fater o arian yn unig; mae hefyd yn fater o sefydlogrwydd i gynnal gwasanaethau. Bu adolygiad Beecham yn edrych ar y gwahanol ffyrdd o gyflawni hyn.

Mae llywodraeth leol wedi gweld llawer o newidiadau yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, felly mae'n haeddu rhywfaint o sefydlogrwydd. Efallai fod diffygion yn y byrddau gwasanaeth lleol, ond maent wedi chwarae'u rhan wrth geisio rhoi dinasyddion yng nghanol y broses a dyna lle dylent fod. Gallwn edrych ar wella hynny, ond, yn y bôn, rhaid i'r arian fod ar gael a rhaid inni weld y dinesydd yng nghanol y broses, ac nid ar ei chyrion.

Mae mwy a mwy o gyfrifoldebau wedi eu trosglwyddo i awdurdodau lleol a hynny heb gyllid ychwanegol. Mae cytundeb llwyth gwaith athrawon yn enghraifft berffaith o hynny, a phasiwyd y cynllun brecwast am ddim mewn ysgolion heb gynnal asesiad llawn o'i effaith.

Mae gwelliannau'r Democratiaid Rhyddfrydol i'r cynnig hwn yn tynnu sylw at bryderon difrifol yn ein hawdurdodau lleol ar y funud. Gwn eu bod yn bryderus ynghylch diffyg cyfeiriad ar bob math o faterion, yn bennaf oherwydd diffyg sicrwydd o gyfeiriad y Cynulliad."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech