Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Morgan: Defending the rights of carers

Speech to the National Assembly for Wales.

"I thank the Welsh Liberal Democrats for tabling such an important subject for debate this afternoon and using their opposition time for the Assembly to consider this huge agenda. The Welsh Conservatives will support the motion and, alongside Liberal Democrat colleagues, we will not support the amendment that has been tabled by the Government.

I ask the Deputy Minister to consider withdrawing the amendment at this stage, as I do not believe that it adds anything to discussions this afternoon. The motion, as you know, is not binding on you as a Government; it merely sets out the view of the National Assembly. So, you have nothing to fear from this motion being passed.

In the spirit of consensus that was referred to by your new Deputy First Minister, it would be a good start if the Government chose to withdraw its amendment this afternoon. I doubt that you will, but I have put that request on record.

We cannot overstate the importance of those people who show such an incredible dedication and make such a contribution as carers. Without this silent army of carers, the health and social care system would simply fail to cope with the consequences.

Often, those people simply do not understand how important and special their contribution is. Today's motion is very important, because, while I support the placing of duties on public bodies such as the NHS to consider the welfare of carers, it is the issue of respite care that causes me great concern and which demonstrates the great gaps in service provision throughout Wales.

Recently, I had to deal with a case in my constituency where a family was struggling to get respite care. When you talk about carers and their responsibilities, people usually assume that the person being cared for is elderly, but in this case, the person being cared for was in her early 20s.

Her parents, in their early 50s, were struggling to get the local health board to put together a comprehensive care package. They had to do battle with a series of commissioners, based at the Cardiff Local Health Board, to put a package of care and support together to help them to do the job of caring for their daughter. That was an enormous strain on them, because they were not familiar with how local health boards worked, with where the funding streams lay or with who was responsible for which bit.

It was an enormous challenge for them as a family, first, to understand who they should be speaking to and, secondly, to persuade the Commissioners to pay for a package of support.

The battles did not end there. The next battle involved the problem of respite care. The local health board, being responsible for providing respite care, struggled to provide an appropriate setting for a young lady in her early 20s to go into respite care to allow her parents a bit of time to undertake other duties.

One of the duties that her parents had to undertake was ensuring that her younger sister could settle into university life at Cambridge. They required no more than a weekend to take her to university to help her to settle in; however, they struggled to fulfil that duty, because they could not access a suitable place in Cardiff for their older daughter to receive respite care.

That was a huge problem for them because, as a family, all they could do was rely on whatever provision the local health board could muster. There are significant gaps in the range of provision, and no one case is the same as the next. It is not easy.

It is not suitable for the Assembly or the providers of services in Wales to say that one size fits all—it simply will not. Whatever range of provision we look at over the next few years, we must ensure that it is sufficient to deal with the variety of circumstances in which people find themselves.

There is no doubt that there is a massive gap in the delivery of services for carers and a gap in the provision of services for those people who are being cared for, and I seriously doubt the ability and capacity of local health boards to plan and provide for these services throughout Wales.

I urge the new Assembly Government to take up this challenge over the next four years and examine how we can provide better services for people in Wales, particularly for younger people because, as I have said, we often assume that it is just the elderly who are affected.

Finally, the new Health, Wellbeing and Local Government Committee met this morning. We have been looking at a range of opportunities to scrutinise the Assembly Government on the implementation of Government policy, and I look forward to including these sorts of issues in the timetable in the future."

"Diolchaf i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru am gyflwyno pwnc mor bwysig i'w drafod brynhawn yma ac am ddefnyddio amser yr wrthblaid er mwyn i'r Cynulliad ystyried yr agenda anferth hwn. Bydd Ceidwadwyr Cymru yn cefnogi'r cynnig ac, ynghyd â'n cyd-aelodau, y Democratiaid Rhyddfrydol, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gan y Llywodraeth.

Gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog ystyried tynnu'r gwelliant yn ei ôl, ar hyn o bryd, gan nad wyf o'r farn ei fod yn ychwanegu dim at y trafodaethau'r prynhawn yma. Nid yw'r cynnig, fel y gwyddoch, yn eich rhwymo fel Llywodraeth; yr oll a wna yw gosod allan farn y Cynulliad Cenedlaethol.

Felly, nid oes gennych ddim i'w ofni os caiff y cynnig hwn ei basio. Mewn ysbryd o gonsensws, y cyfeiriodd Dirprwy Brif Weinidog newydd Cymru ato, byddai'n ddechrau da pe bai'r Llywodraeth yn dewis tynnu'i gwelliant yn ôl brynhawn heddiw. Nid wyf yn ffyddiog y gwnewch hynny, ond mae'r cais wedi'i gofnodi.

Ni allwn bwysleisio digon pa mor bwysig yw'r bobl hynny sy'n dangos y fath ymroddiad anhygoel ac yn gwneud y fath gyfraniad fel gofalwyr. Heb y fyddin dawel hon o ofalwyr, ni fyddai'r gyfundrefn iechyd a gofal cymdeithasol, yn syml iawn, yn gallu ymdopi â'r canlyniadau. Yn aml iawn, nid yw'r bobl hynny'n deall pa mor bwysig ac arbennig yw eu cyfraniad.

Mae cynnig heddiw yn bwysig iawn oherwydd, er fy mod yn cefnogi'r cam o roi dyletswyddau i gyrff cyhoeddus fel y GIG i ystyried lles gofalwyr, mater gofal seibiant sy'n peri pryder mawr i mi ac sy'n amlygu'r bylchau anferth yn y gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru.

Yn ddiweddar, bu'n rhaid i mi ddelio ag achos yn fy etholaeth lle'r oedd teulu yn brwydro i gael gofal seibiant. Pan fyddwch yn sôn am ofalwyr a'u cyfrifoldebau, mae pobl yn cymryd yn ganiataol, fel rheol, bod y sawl sy'n cael gofal yn oedrannus ond, yn yr achos hwn, yn ei 20au cynnar yr oedd y sawl a gâi ofal. Yr oedd ei rhieni, yn eu 50au cynnar, yn brwydro i gael y bwrdd iechyd lleol i lunio pecyn gofal cynhwysfawr.

Bu'n rhaid iddynt frwydro â chyfres o gomisiynwyr, a weithiai gyda Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd, er mwyn rhoi pecyn o ofal a chefnogaeth at ei gilydd i'w helpu i gyflawni'r gwaith o ofalu am eu merch. Yr oedd hynny'n bwysau enfawr arnynt, gan nad oeddent yn gyfarwydd â'r ffordd yr oedd byrddau iechyd lleol yn gweithio, â phatrwm y ffynonellau cyllido nag â phwy a oedd yn gyfrifol am ba ran.

Yr oedd yn anferth o her iddynt fel teulu, yn y lle cyntaf, i ddeall â phwy y dylent fod yn siarad ac, yn ail, i berswadio'r Comisiynwyr i dalu am becyn o gefnogaeth.

Nid dyna derfyn ar y brwydro. Y frwydr nesaf oedd problem gofal seibiant. Yr oedd y bwrdd iechyd lleol, a oedd yn gyfrifol am ddarparu gofal seibiant, yn ymdrechu'n galed i ddarparu lleoliad priodol i fenyw ifanc yn ei 20au cynnar i fynd i gael gofal seibiant er mwyn caniatáu i'w rhieni gael mymryn o amser i ymgymryd â dyletswyddau eraill.

Un o'r dyletswyddau y bu'n rhaid i'w rhieni eu gwneud oedd sicrhau y gallai ei chwaer iau gynefino â bywyd prifysgol yng Nghaergrawnt. Nid oedd angen mwy na phenwythnos arnynt i fynd â hi i'r brifysgol i'w helpu i ymgartrefu; fodd bynnag, bu'n anodd iddynt gyflawni'r ddyletswydd honno, am nad oedd modd iddynt gael lle addas yng Nghaerdydd i'w merch hyn gael gofal seibiant.

Yr oedd hynny'n broblem enfawr iddynt oherwydd, fel teulu, y cyfan y gallent ei wneud oedd dibynnu ar ba ddarpariaeth bynnag y gallai'r bwrdd iechyd lleol ei hel ynghyd. Mae bylchau sylweddol yn yr ystod o ddarpariaeth, ac nid oes yr un achos yr un fath â'r nesaf. Nid yw'n hawdd.

Nid yw'n addas i'r Cynulliad nac i ddarparwyr gwasanaethau yng Nghymru ddweud bod un maint yn gweddu i bawb—nid felly y mae hi. Pa ystod bynnag o ddarpariaeth y byddwn yn edrych arno dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, rhaid inni ofalu ei bod yn ddigonol i fynd i'r afael â'r amrywiaeth o amgylchiadau y caiff pobl eu hunain ynddynt.

Yn ddiamau, mae bwlch anferth wrth gyflenwi gwasanaethau i ofalwyr a bwlch yn y gwasanaethau a ddarperir ar gyfer y bobl hynny sy'n cael gofal, ac y mae gennyf amheuon dybryd ynghylch gallu a chapasiti'r byrddau iechyd lleol i gynllunio a darparu ar gyfer y gwasanaethau hyn ledled Cymru.

Anogaf Lywodraeth newydd y Cynulliad i wynebu'r her hon dros y pedair blynedd nesaf ac edrych i weld sut y mae modd i ni ddarparu gwell gwasanaethau i bobl yng Nghymru, yn enwedig i bobl iau oherwydd, fel y dywedais, yr ydym yn rhagdybio'n aml mai'r henoed yn unig sydd yn teimlo effaith hyn.

Yn olaf, cyfarfu'r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol newydd y bore yma. Buom yn edrych ar ystod o gyfleoedd i graffu ar Lywodraeth y Cynulliad o ran gweithredu polisi'r Llywodraeth, ac edrychaf ymlaen at gynnwys y mathau hyn o bynciau ar yr amserlen yn y dyfodol."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech