Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Isherwood: Tackling the Welsh housing crisis

Speech to the National Assembly for Wales.

"Wales has a housing crisis, and we have been saying so on this side of the Chamber for as long as I have been here, and before then. Every housing body in Wales has been saying so for many years, and only this Labour Assembly Government has denied it.

The time has come to replace dogma with delivery, and words with action. The heart of the problem is that there has been a cut in the supply of new housing for rent or low cost home ownership, as house prices, homelessness and waiting lists have increased.

During the last seven years of Conservative Government, 22,600 council houses were sold, but 20,000 new dwellings were completed by housing associations and councils. Contrast this with the first seven years of devolved Labour Government, when over 28,000 council houses were sold but fewer than 5,000 new dwellings were completed by housing associations and councils.

However, as Labour MP Paul Flynn recently stated, when effective answers to problems are difficult and expensive, politicians are tempted to go for easy and instant ones.

The Assembly might decide to vary the right-to-buy scheme for council tenants, which has been referred to, but that will not supply additional houses to the housing market.

Responding to Paul Flynn MP's statement a fortnight ago, the First Minister told me that Paul Flynn held these views because Newport did not have housing pressures.

I have since confirmed that as of 5 June 2007, 5,699 people were on the housing waiting list in Newport, which hardly equates to no housing pressures.

As Professor Steve Wilcox concluded in his financial evaluation of right to buy—the leading analysis of the financial position regarding right to buy—provided that discounts do not exceed 30 per cent to 35 per cent, there is a better financial case for ensuring that receipts from sales are reinvested to secure replacement affordable housing, than there is to suspend the right to buy.

If we want to get more bang for our buck, we should listen to the academics and independent experts, and less to politicians with grudges that belong to a quarter of a century ago, rather than today.

The number of households needing accommodation in Wales is forecast to increase by 12 per cent over the next 10 years. Since devolution, the number of people in Wales receiving Government help to buy their first house has fallen by two thirds.

In Wales today, an estimated 225,000 people are living in unfit accommodation. According to Shelter, one in seven British children are growing up homeless or in bad housing. Wales has the worst housing conditions in the United Kingdom, and children living in poor housing have a far higher risk of ill health and educational underachievement.

The number of households in Wales accepted as homeless has more than doubled, rising by 127 per cent since 1999, and is at the highest level since 1978. Recent claimed falls in homelessness are contradicted by the rising hidden homelessness reported to the Social Justice and Regeneration Committee during its review of youth homelessness.

Housing Forum Cymru has stated that housing issues are creating a more divided Wales, and the consequences for social cohesion are enormous. In evidence to the National Assembly, the Joseph Rowntree Foundation highlighted the severe shortage of low-cost housing in many rural areas and the particularly difficult problems facing young people in those areas. Cardiff University states that good housing should be at the heart of community regeneration.

The Chartered Institute of Housing states that an adequate supply of affordable housing is key to creating sustainable communities. The Confederation of British Industry has expressed disappointment that housing did not feature in the Assembly Government's 'Wales: A Vibrant Economy' document, stating that new housing is a key factor in attracting investment to Wales and in retaining the workforce.

We must maximise the use of existing investment and find ways of increasing total investment in affordable housing, and we must start by deregulating the registered social landlords sector.

Above all, we require the Assembly Government to tell less, to ask more, and to maximise the expertise available to it in front-line voluntary and independent organisations, acting together in a spirit of social responsibility."

"Mae'n argyfwng arnom yng Nghymru ym maes tai, ac yr ydym wedi bod yn datgan hynny o ochr hon y Siambr yr holl amser ers i fi fod yma, a chyn hynny hefyd. Mae pob corff sy'n gweithio ym maes tai yng Nghymru wedi bod yn datgan hyn ers blynyddoedd, a'r Llywodraeth Lafur hon yn y Cynulliad yw'r unig un sydd wedi gwadu hynny.

Mae'n hen bryd dechrau darparu yn lle glynu at ddogma, a gweithredu yn lle geiriau gwag. Gwraidd y broblem yw'r lleihad yng nghyflenwad tai newydd ar rent a thai sydd ar gael i'w prynu am bris isel, tra bo prisiau tai, digartrefedd a rhestrau aros yn cynyddu.

Yn ystod saith mlynedd olaf y Llywodraeth Geidwadol, gwerthwyd 22,600 ty cyngor, ond codwyd 20,000 o dai newydd gan gymdeithasau tai a chynghorau. Cymharwch hynny â'r saith mlynedd gyntaf o Lywodraeth Lafur ddatganoledig, pan werthwyd dros 28,000 o dai cyngor ond codwyd llai na 5,000 o dai newydd gan gymdeithasau tai a chynghorau.

Fodd bynnag, fel y dywedodd yr AS Llafur Paul Flynn yn ddiweddar, pan fo atebion effeithiol i broblemau yn anodd ac yn gostus, caiff gwleidyddion eu temtio i fynd am yr atebion hawdd a chyflym. Efallai y bydd y Cynulliad yn penderfynu diwygio'r cynllun hawl-i-brynu i denantiaid cyngor, y cyfeiriwyd ato eisoes, ond ni fydd hynny'n darparu mwy o dai i'r farchnad dai.

Wrth ymateb i ddatganiad Paul Flynn AS bythefnos yn ôl, dywedodd y Prif Weinidog wrthyf fod Paul Flynn yn arddel y farn hon oherwydd nad oedd pwysau am dai yng Nghasnewydd.

Ers hynny, yr wyf wedi cael cadarnhad bod 5,699 o bobl ar y rhestr aros am dy yng Nghasnewydd ar 5 Mehefin 2007. Onid yw hynny'n cyfateb i bwysau am dai tybed?

Daeth yr Athro Steve Wilcox i'r casgliad yn ei werthusiad ariannol o'r cynllun hawl i brynu—sef y prif ddadansoddiad o'r sefyllfa ariannol o ran hawl i brynu—ar yr amod nad yw'r disgownt yn fwy na rhwng 30 y cant a 35 y cant, ceir dadl ariannol gryfach dros sicrhau bod yr arian a geir wrth werthu tai yn cael ei ail-fuddsoddi i sicrhau tai fforddiadwy yn eu lle, yn hytrach nag atal y cynllun hawl i brynu yn gyfan gwbl.

Os ydym am gael mwy o werth am arian, dylem wrando mwy ar academyddion ac arbenigwyr annibynnol, a llai ar wleidyddion sy'n dal dig ac sy'n perthyn i oes o'r blaen yn hytrach na'r presennol.

Y gwir broblem yw bod y grant tai cymdeithasol yng Nghymru yn dal yn llai nag ydoedd 10 mlynedd yn ôl pan ddaeth cyfnod fy mhlaid mewn grym i ben, sy'n cynrychioli toriad anferth mewn termau real. Dyna pam fod y cynnig hwn, yr ydym yn ei gefnogi, yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ymrwymo i gymryd camau gweithredol i fynd i'r afael â'r argyfwng parhaus ym maes tai.

Mae'n hanfodol cael mwy o fuddsoddiad a mwy o gefnogaeth ym maes tai a'r meysydd perthnasol er mwyn sicrhau cydlyniad Cymru i'r dyfodol. Oni chymerir camau ar frys, bydd y miliynau a fuddsoddwyd gan Lafur mewn adfywio cymunedol wedi'i adeiladu ar dywod.

Rhagwelir y bydd y nifer o aelwydydd sydd angen llety yng Nghymru yn cynyddu 12 y cant dros y 10 mlynedd nesaf. Ers datganoli, mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n derbyn cymorth gan y Llywodraeth i brynu eu ty cyntaf wedi lleihau gan ddwy ran o dair. Yng Nghymru heddiw, amcangyfrifir bod 225,000 o bobl yn byw mewn llety sydd heb fod yn ffit i fyw ynddynt.

Yn ôl Shelter, caiff un o bob saith plentyn ym Mhrydain ei fagu yn ddigartref neu mewn ty sydd mewn cyflwr gwael. Mae cyflwr tai yng Nghymru yn waeth nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig, ac mae plant sy'n byw mewn tai gwael yn llawer mwy tebygol o ddioddef salwch ac o dangyflawni yn yr ysgol.

Mae nifer yr aelwydydd yng Nghymru y derbyniwyd eu bod yn ddigartref wedi mwy na dyblu, codiad o 127 y cant er 1999, ac wedi cyrraedd ei lefel uchaf er 1978. Caiff yr honiadau diweddar bod digartrefedd wedi disgyn eu gwrth-ddweud gan y digartrefedd cudd cynyddol y clywsom amdano yn y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio yn ystod ei adolygiad o ddigartrefedd ymysg pobl ifanc.

Datgelodd Fforwm Tai Cymru fod materion yn ymwneud â thai yn creu Cymru fwy ranedig, a bod y goblygiadau o ran cydlyniad cymdeithasol yn enfawr. Wrth gyflwyno tystiolaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol, tynnodd Sefydliad Joseph Rowntree sylw at y diffyg dybryd o dai am bris isel mewn llawer o ardaloedd gwledig a'r problemau anodd iawn a wynebir gan bobl ifanc yn yr ardaloedd hynny. Dadleua Prifysgol Caerdydd y dylai tai da fod wrth wraidd adfywio cymunedol.

Dadleua'r Sefydliad Tai Siartredig fod cyflenwad digonol o dai fforddiadwy yn allweddol ar gyfer creu cymunedau cynaliadwy. Mynegodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain eu siom nad oedd sôn am dai yn nogfen Llywodraeth y Cynulliad, 'Cymru: Economi yn Ffynnu', gan ddweud bod tai newydd yn ffactor allweddol er mwyn denu buddsoddiad i Gymru ac i gadw'r gweithlu.

Rhaid i ni fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad presennol a chanfod dulliau o gynyddu cyfanswm y buddsoddiad mewn tai fforddiadwy, a rhaid i ni gychwyn arni drwy ddadreoleiddio'r sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Yn anad dim, mae angen i Lywodraeth y Cynulliad ddweud llai, gofyn mwy, a manteisio ar yr arbenigedd sydd ar gael iddi o ran mudiadau rheng flaen gwirfoddol ac annibynnol, a chydweithio mewn ysbryd o gyfrifoldeb cymdeithasol."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech