Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Glyn Davies: Practical solutions to tackling climate change

Speech to the National Assembly for Wales.

"It seems that we are all pretty well in agreement in this Chamber on this issue, which is not surprising, because I think that all of us now accept that mitigating the impacts of climate change is one of the greatest issues that we face. I am sure that over the next few months, and probably the next few years, there will be very substantial debates about this in this Chamber, and not just a 45-minute minority party debate. We will undoubtedly have very significant debates about this.

I was very pleased to see in the Queen's Speech reference to the fact that there will be a climate change Bill at Westminster, which I greatly welcome. I hope that the Government here, the Minister, and, indeed, the First Minister, will enter into discussions as to what will be in that Bill. We should not just wait until a Bill is formed and then, as an Assembly, comment on it. I hope that we will be involved in the consultation process.

Hopefully, there will be some sort of a document issued giving ideas about what the Bill might include. We can then go through a process of taking evidence and discussing it, by means of whatever the committee structure will be, and make a contribution to what goes in the Bill, rather than simply commenting on it.

One key issue is the targets that will be set in the Bill. That will not be straightforward in my view; I have seen an awful lot of comment about having a simple, annual target. We have to do a lot of work on deciding what the timescale is, and whether there should be an annual target, or one set over a slightly longer period.

I am not clear as to exactly what the timescale might be. We will also have to be quite careful about having targets that apply equally across Britain. In some parts of Britain, it is easier to reach a particular target than in others, depending on what the employment base is. That is another issue. There is a whole range of factors that have to be carefully considered when preparing a climate change Bill that places obligations on different parts of the United Kingdom to meet targets.

One proposal in the motion before us is the devolution of building regulations, which is an issue that we have discussed within the group. I am committed to the devolution of building regulations to Cardiff, because I think that it sits very well with planning.

Having said that, there is also an ambition on our part, if we are to make a real difference, to ensure change right across the United Kingdom. It is also important in calling for devolution of this sort, of a whole service or sector, that we are very careful about its implications.

I was pleased to see amendment 4 from Labour. It is obvious, from the comments that have been made, that the Labour amendment will be supported. It is a consideration that makes this motion acceptable to us, and we will be supporting it.

I wish to make one further point about tackling the climate change issue in Wales and how we improve buildings. We have talked quite a lot in this debate about housing and the way that it improves. I think that there is a role here for the Assembly Government, whoever forms the Government in future, in using the finance that it distributes—in all the ways that it does that, whether through grants to farms, schools, social centres or any other building—to require that some contribution be made to the overall target of tackling climate change and make certain that everything it supports outside its direct involvement meets the same sort of building standards that the Assembly Government does with its buildings.

We need to spread out from advertising the energy saving aspects of our buildings to bringing everything else in Wales into line. There is an awful lot of work to be done if we are to make a difference and if we are to set a standard in Wales that we wish to see spread to the rest of the world.

That is what is important. Doing something just in Wales will play a relatively small—important, but small—part. The big ambition for us is to behave in a way in Wales that becomes an exemplar, first for the rest of the UK, and Europe, and eventually for the rest of the world."

"Ymddengys fod pawb yn weddol gytûn yn y Siambr hon ynghylch y mater hwn, ac nid yw hynny'n syndod, oherwydd credaf fod pawb sydd yma'n derbyn bellach bod lliniaru effaith y newid yn yr hinsawdd yn un o'r pethau mwyaf yr ydym yn ei wynebu. Yr wyf yn sicr dros y misoedd nesaf, a thros y blynyddoedd nesaf yn ôl pob tebyg, y bydd trafod mawr ynghylch hyn yn y Siambr hon, ac nid mewn dadl 45 munud gan y pleidiau lleiafrifol yn unig. Yn sicr cawn drafodaethau sylweddol iawn ynghylch hyn.

Yr oeddwn yn falch iawn o weld cyfeiriad yn Araith y Frenhines at y ffaith y bydd Mesur ynghylch y newid yn yr hinsawdd yn San Steffan, yr hwn yr wyf yn ei groesawu'n fawr. Gobeithiaf y bydd y Llywodraeth hon, y Gweinidog, ac, yn wir, y Prif Weinidog, yn cynnal trafodaethau ynghylch yr hyn a ddylai fod yn y Mesur hwnnw.

Ni ddylem aros nes bydd Mesur wedi ei lunio a chynnig sylwadau arno fel Cynulliad y pryd hynny. Gobeithiaf y byddwn yn rhan o'r broses ymgynghori. Gobeithiaf y caiff rhyw fath o ddogfen ei chyhoeddi a fydd yn cynnig syniadau ynghylch yr hyn y gellid ei gynnwys yn y Mesur. Yna cawn fynd trwy broses o dderbyn tystiolaeth a'i thrafod, trwy'r strwythur pwyllgorau beth bynnag y bo, a chyfrannu at yr hyn a aiff i mewn i'r Mesur, yn hytrach na chynnig sylwadau yn ei gylch yn unig.

Bydd y targedau a gaiff eu gosod yn y Mesur yn fater allweddol. Ni fydd hynny'n beth syml yn fy marn innau; gwelais sylwadau di-rif ynghylch gosod targed syml blynyddol. Bydd yn rhaid inni weithio'n galed i benderfynu ar yr amserlen, a ph'un ai a ddylid gosod targed blynyddol ai peidio, neu darged dros gyfnod amser ychydig yn hirach na hynny.

Nid wyf yn sicr ynglyn â'r union amserlen. Bydd yn rhaid inni fod yn weddol ofalus hefyd ynglyn â gosod targedau sy'n gymwys yn gyfartal ar draws Prydain. Mewn rhannau o Brydain, mae'n haws cyrraedd targed neilltuol nag ydyw mewn rhannau eraill, gan ddibynnu beth yw'r sylfaen gyflogaeth. Mae hwnnw'n fater arall. Mae nifer helaeth o ffactorau y dylid eu hystyried yn ofalus wrth lunio Mesur ynghylch y newid yn yr hinsawdd sy'n gosod rhwymedigaethau ar wahanol rannau o'r Deyrnas Gyfunol er mwyn cyflawni targedau.

Un elfen o'r cynnig sydd ger ein bron yw datganoli rheoliadau adeiladu, sy'n fater yr ydym wedi ei drafod yn y grwp. Yr wyf wedi fy ymrwymo i ddatganoli rheoliadau adeiladu i Gaerdydd, gan fy mod yn credu eu bod yn gydnaws iawn â chynllunio. Wedi dweud hynny, mae gennym uchelgais, os ydym am wneud gwahaniaeth gwirioneddol, i sicrhau newid ar draws y Deyrnas Gyfunol. Mae'n bwysig hefyd wrth alw am ddatganoli o'r fath, sef gwasanaeth neu sector cyfan, ein bod yn ofalus iawn ynghylch ei oblygiadau. Yr oeddwn yn falch o weld gwelliant 4 gan Lafur.

Mae'n amlwg, yn ôl y sylwadau a wnaethpwyd, y caiff gwelliant Llafur ei gefnogi. Mae'n ystyriaeth sy'n peri bod y cynnig hwn yn dderbyniol gennym, a byddwn yn ei gefnogi.

Hoffwn wneud un pwynt yn rhagor ynghylch mynd i'r afael â mater y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru a'r modd y byddwn yn gwella adeiladau. Bu llawer o sôn yn ystod y ddadl hon ynghylch tai a'r modd y cânt eu gwella.

Credaf fod rôl yn hyn o beth i Lywodraeth y Cynulliad, pwy bynnag a fydd yn ffurfio'r Llywodraeth at y dyfodol, o ran defnyddio'r arian y mae'n ei ddosbarthu—ym mhob ffordd y bydd yn gwneud hynny, p'un ai a yw hynny ar ffurf grantiau i ffermydd, ysgolion, canolfannau cymdeithasol neu adeiladau eraill—i fynnu bod rhyw fath o gyfraniad yn cael ei wneud at y targed cyffredinol o fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a sicrhau bod popeth y mae'n ei gefnogi y tu hwnt i'w ymwneud uniongyrchol yn cyflawni'r un mathau o safonau adeiladu ag y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud gyda'i adeiladau ei hun.

Mae angen inni symud ymlaen o hysbysebu'r agweddau ar ein hadeiladau sy'n arbed ynni at roi trefn ar bopeth arall yng Nghymru. Mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud os ydym am wneud gwahaniaeth ac os ydym am osod safon yng Nghymru yr ydym am weld ei lledaenu i weddill y byd. Dyna'r hyn sy'n bwysig. Bydd gwneud rhywbeth yng Nghymru'n rhan gymharol fach—rhan bwysig ond rhan fach. Yr uchelgais fawr i ni yw ymddwyn yng Nghymru mewn modd a fydd yn esiampl, ar gyfer gweddill y Deyrnas Gyfunol i ddechrau, ac Ewrop, ac yn y pen draw i weddill y byd."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech