Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Bourne: Ceidwadwyr Cymreig – Ennill yn 2007

Wrth annerch cynhadledd y Blaid Geidwadol yn Bournemouth, dywedodd Nick Bourne AS, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad Cenedlaethol:

"Mae'n bleser mawr gennyf eich annerch chi heddiw.

Mae ychydig dros chwe mis i fynd tan etholiadau Cynulliad Cymru, a dyma hunllef Rhodri Morgan. Ni fydd Blair yn gadael yn ddistaw. Mae Brown yn cael ei rwystro. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dynn ar ei sodlau. Ac mae Mike German ar y ffôn.

Ni all mis Mai nesaf ddod yn ddigon buan. Rydym yn barod i ennill mwy o bleidleisiau a seddau na Phlaid Cymru, a ni bellach yw'r bygythiad mwyaf i Lafur yng Nghymru.

Tra bod Llafur ar chwâl, mae cefnogaeth i'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynyddu. A'r ffaith ein bod ni'n newid sy'n gyfrifol am hynny. Rydym yn cynnig rhywbeth gwahanol.

David Cameron sydd wedi arwain y broses honno o newid, a hoffwn ddiolch iddo am ei holl gefnogaeth i ni yng Nghymru. Mae e'n arweinydd ysbrydoledig sy'n gwneud gwaith rhagorol.

Mae Cheryl Gillan, ein darpar Ysgrifennydd Gwladol i Gymru, hefyd wedi gwneud gwaith o'r radd flaenaf - diolch o galon iddi hi.

Ond, fel arfer, aelodau'r blaid ar lawr gwlad sy'n haeddu ein diolch mwyaf.

Rhaid i ni ddiolch i bob aelod sydd yma heddiw, ac yn ôl yng Nghymru, am weithio'n ddiflino dros y blaid.

Chi yw'r bobl sy'n sicrhau bod newid yn digwydd ym mhob cwr o Gymru.

Rydych chi'n dangos bod y Ceidwadwyr Cymreig o ddifrif ynglyn â delio â'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau.

Mae Llafur yn rhanedig. ASau Llafur o Gymru sydd wedi arwain yr ymgyrch i orfodi'r Prif Weinidog i ymddiswyddo - mae colli isetholiad Blaenau Gwent wedi eu dychryn, ac mae'r blaid yn poeni am golli rhagor o seddau yn etholiadau'r Cynulliad.

Does dim syndod bod yr holl drafod am bartneriaeth ddynamig rhwng Llafur yn San Steffan a Chymru bellach wedi dod i ben.

Does dim mwy o siarad am ba mor dda y mae Rhodri yn cydweithio gyda Tony.

Mae Blair yn cael ei weld fel anfantais etholiadol, a bydd Llafur Cymru yn fwy awyddus nag erioed i'n hatgoffa o'r dwr coch clir.

Rydym yn gwybod bod Rhodri am weld Blair yn gadael a Brown yn cymryd yr awenau - mater o amser yn unig yw e cyn y bydd Rhodri yn ymweld â Fife i roi anrheg i fabi Brown.

Ond bydd angen iddo wneud mwy na hynny. Mae Rhodri Morgan yn gorfod amddiffyn ei berfformiad ei hun, boed hynny'n ei blesio neu beidio. Ac mae ganddo gryn dipyn o waith egluro.

Diolch i'w lywodraeth e mae gennym restri aros hirach, rhagor o fiwrocratiaeth, lefelau treth gyngor sy'n codi ac economi sydd wedi'i mygu.

Mae cynnig dewis ym maes gwasanaethau cyhoeddus wedi'i wrthod yn llwyr; mae'r ymgais i ddilyn polisi sosialaidd yn slafaidd wedi amharu ar gynnydd.

Mae Llafur wedi colli ymddiriedaeth y cyhoedd yng Nghymru ac wedi torri addewidion ei maniffesto ar restri aros, gofal cartref am ddim i'r anabl a brecwast am ddim mewn ysgolion.

Rydym yn siwr o gael cyhoeddiadau disgwyliedig o newyddion da cyn yr etholiad a phenawdau clyfar gan Lafur Cymru dros y misoedd nesaf, ond ta waeth am hynny.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig rhywbeth ystyrlon a pharhaol.

Rydym wedi gweithio'n galed ar ein maniffesto. Rydym wedi canolbwyntio ar drafod gyda grwpiau â buddiant, ysgolion, undebau, busnesau, elusennau ac aelodau'r blaid am gyfeiriad ein polisi - a hoffwn ddiolch i chi am gyfrannu at y broses hon.

Rydym bron yn barod i droi'r syniadau hynny'n bolisïau, ac rydym yn edrych ymlaen at ymgyrchu drostyn nhw.

Bydd ein maniffesto yn cynnig llwyfan cyffrous a chydlynol i ni allu ffurfio llywodraeth.

Bydd yn canolbwyntio ar wasanaethau lleol da, GIG o'r radd flaenaf, system addysg ragorol, economi gref ac amgylchedd cynaliadwy.

Mae'r posibiliadau o ran pwerau sylfaenol yn golygu bod gennym ragor o allu i gynnig gwahaniaethau polisi arwyddocaol i bobl Cymru, a byddwn yn manteisio i'r eithaf ar y Ddeddf Llywodraeth Cymru newydd, er gwaethaf ei diffygion.

Mae hyrwyddo brogarwch yn fodd o gydnabod mai pobl leol sy'n deall problemau lleol orau.

Yng Nghymru, yn fwy nag yn Lloegr hyd yn oed, rydym wedi gweld Llafur yn mygu gwasanaethau cyhoeddus gyda mân-reolau ac agwedd 'y llywodraeth sy'n gwybod orau'.

Mae'r cynnydd anferth yn y nifer o bobl a gyflogir gan y weinyddiaeth ganolog, ynghyd â'r llu o orchmynion a mentrau gan Barc Cathays yng Nghaerdydd, yn gorlethu ac yn diflasu ein gwasanaethau cyhoeddus yn aml - a hynny heb fod unrhyw fai ar staff diwyd.

Rwyf am gael gwared ar y sefyllfa honno.

Rwy'n credu y bydd datganoli grym i bobl leol - i athrawon a rhieni, i weithwyr proffesiynol a chleifion - yn trawsnewid cymunedau.

Bydd cyflwyno hyblygrwydd yn y cwricwlwm yn rhoi rhyddid i athrawon ysbrydoli ein plant.

Bydd hyrwyddo cysylltiadau lleol rhwng ysgolion a busnesau yn esgor ar gyfleoedd hyfforddiant galwedigaethol cyffrous.

Bydd gan ysgolion ragor o rym i greu amgylchedd dysgu disgybledig.

Gall rhieni ddewis yr ysgol sydd fwyaf addas i ofynion eu plentyn.

Ym maes iechyd hefyd, byddwn yn canolbwyntio ar anghenion y claf, y teulu a'r gymuned ac nid ar fiwrocratiaeth llywodraeth ganolog.

Bydd llywodraeth y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi mwy o bwyslais ar waith hollbwysig meddygfeydd Meddygon Teulu.

Bydd Canolfannau Galw i Mewn y GIG yn helpu gwasanaethau rheng flaen.

Bydd pobl leol yn cael dweud eu dweud am ddyfodol eu hysbytai.

Bydd y sector gwirfoddol yn cael swyddogaeth ehangach.

Pan aiff pethau o chwith, grwpiau gwirfoddol sy'n gorfod ymdopi â'r sefyllfa yn aml.

Mae gwirfoddolwyr sy'n helpu pobl sy'n gaeth i gyffuriau, pobl sy'n camddefnyddio alcohol a phobl sy'n dioddef trais yn y cartref yn arwyr lleol.

Ac mae hwn yn faes y gallwn ni ei wella yn fy marn i.

Gallwn ni ddysgu mwy gan sefydliadau gwirfoddol a chynnig mwy o gefnogaeth.

Mae llywodraeth Lafur y Cynulliad wedi rhoi'r argraff ei bod yn rhoi sylw i swyddogaeth mentrau cymdeithasol - yn fentrau gwirfoddol neu ddi-elw gan amlaf - ond mewn gwirionedd mae wedi methu â gwireddu eu potensial yn llawn.

Mae Dwr Cymru yn gwneud gwaith rhagorol mewn canolfannau addysg ledled y wlad; mae SIREN yn Aberhonddu yn gweithio gyda chyn-droseddwyr a phobl sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir, gan greu dodrefn o bren sydd wedi'i ail-gylchu gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn lleol.

Ond mae yna lawer mwy o syniadau am fentrau cymdeithasol sydd angen eu hyrwyddo.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn helpu pobl leol i ddatblygu'r math o economi gymdeithasol sydd ei hangen i greu amgylchedd lleol gwell a chymuned gryfach.

Ym mhob agwedd ar economi Cymru, effaith niweidiol meddylfryd biwrocrataidd a chymysglyd Llafur sy'n rhwystro ffyniant.

Byddwn ni'n rhyddhau busnesau bach a chanolig rhag ymyrraeth ormodol gan y wladwriaeth, gan eu galluogi i fywiogi ein trefi a'n pentrefi - dim ond wedyn y bydd modd i ni ddechrau mynd i'r afael â'r amddifadedd sy'n niweidio cymaint o ardaloedd yng Nghymru a gobeithio cau'r bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU.

Bydd mynd i'r afael â'r broblem o ddiffyg tai fforddiadwy hefyd yn sicrhau dyfodol hirdymor i'n cymunedau.

Rwyf am weld llawer mwy o gymorth ar gyfer maes gofal plant er mwyn galluogi teuluoedd i gyfuno gwaith a bywyd cartref.

Bydd hyn yn cael lle canolog yn ein maniffesto.

Rwy'n awyddus i ddileu tlodi mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â mewn trefi a dinasoedd.

Bydd rhaid i ni ddysgu o'r camgymeriadau a wnaed gydag Amcan Un ac efelychu enghreifftiau cadarnhaol o bolisïau economaidd yn Iwerddon a thu hwnt.

Rhaid i ni fanteisio ar ein cryfderau. Mae twristiaeth yn un o'r cryfderau hynny, a hynny am resymau da. Mae tirwedd Cymru yn hynod o drawiadol.

Does dim byd gwell gen i na cherdded ym Mynyddoedd Cambria a Bannau Brycheiniog, neu ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro. Mae harddwch cefn gwlad Cymru yn agos at fy nghalon.

Mae pobl o bob cwr o'r byd yn dod i Gymru i fwynhau ein mynyddoedd a'n dyffrynnoedd ac i gael blas ar ein hud Celtaidd.

Does dim dwywaith fod hyn yn werth ei ddiogelu.

Mae mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn gofyn am benderfyniadau anodd - gan gynnwys ystyried ffynonellau ynni amgen yn ofalus a sicrhau ein diogelwch yn y dyfodol.

Mae angen i'r llywodraeth ac unigolion gydweithio wrth gymryd camau gwyrdd.

Mae ailgylchu yn golygu llai o wastraff. Mae gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu llai o geir ar y ffyrdd. Mae llai o filltiroedd bwyd yn golygu bod ffermwyr lleol ar eu hennill.

Llai o dirlenwi. Llai o lygredd. Manteision amgylcheddol. Manteision iechyd. Manteision economaidd. Mae'n ddewis gwleidyddol hollol glir ac anorfod.

Ar wahân i'n hamgylchedd, un o'r nodweddion eraill sy'n gwneud Cymru mor arbennig yw ein hunaniaeth ddiwylliannol.

Rydym yn fyd-enwog fel gwlad y gân ac am ein hangerdd at rygbi ac iaith. Mae diwylliant Cymru hefyd yn tyfu mewn meysydd eraill, gan gynnwys mentrau ffilm cyffrous, cynyrchiadau dawns arloesol a datblygiad chwaraeon antur.

Mae yna hyder newydd yng Nghymru, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig am ei ddatblygu ymhellach. Mae gennym dreftadaeth gyfoethog a swynol sy'n llawn haeddu Archifdy Cenedlaethol yng Nghymru - nid yn Kew yn Llundain.

Mae arlunwyr o Gymru, a ninnau hefyd, yn haeddu Oriel Gelf Genedlaethol.

A rhaid i ni adolygu Deddf yr Iaith Gymraeg er mwyn sicrhau ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir o ran creu Cymru wirioneddol ddwyieithog.

Mae hyn yn golygu gwella addysg cyfrwng Cymraeg a'r defnydd o'r Gymraeg ym myd busnes yn ogystal â diogelu siaradwyr Cymraeg a Saesneg.

Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig weledigaeth glir i Gymru sy'n rhagori ar unrhyw beth sydd gan y pleidiau eraill i'w gynnig.

Mae Plaid Cymru wedi ysgrifennu at Siôn Corn yn gynharach eleni gyda'i rhestr ddymuniadau.

Mae'r cenedlaetholwyr cardiau credyd am wario arian heb ystyried sut y bydden nhw'n ariannu eu polisïau yn yr hirdymor.

Mae polisïau Plaid ar ei hôl hi ac yn amhoblogaidd. Mae Plaid am greu Cymru sy'n fwy addas i'r 1950au na'r unfed ganrif ar hugain, Cymru heb liw.

Yn y cyfamser, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhoi'r gorau i ymladd yr etholiad yn barod, gan obeithio y bydd eu hen gariadon Llafur yn eu croesawu yn ôl eto.

Pleidleisiwch dros y Democratiaid Rhyddfrydol i gael Llafur. Jenny Willott sy'n arwain y gwaith cefndir o drefnu ymgyrch etholiadau Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol.

Fel mae Mike German yn ei ddweud, bydd hi'n "sicrhau bod ein hymgeiswyr yn dweud yr un peth ar un pryd".

Heb os, hi sydd â'r swydd anoddaf yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl wedi gadael Llafur, Plaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol i ymuno â'r Ceidwadwyr Cymreig. Bydd rhagor yn gwneud hynny hefyd.

Roedd rhyddhad cyffredinol yng Nghymru'r wythnos ddiwethaf pan ddywedodd Rhodri Morgan nad ef, hwyrach, fyddai Prif Weinidog Cymru yr adeg hon y flwyddyn nesaf.

Mae ei fwriad i ymddeol yn 2009 yn deilchion, diolch i'r drefn - nid yw arweinyddiaeth ansicr a blinedig yn ysbrydoli neb.

Bydd Cymru yn well ei byd heb anallu anobeithiol clown sy'n ei alw ei hun yn Brif Weinidog Cymru.

Mae Peter Hain yn poeni hefyd. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi addo brwydr ffyrnig i atal y Ceidwadwyr.

Mae e'n gwybod popeth am frwydrau ffyrnig - wedi'r cwbl, fe wynebodd ddwy frwydr i geisio atal Rhodri Morgan rhag dod yn Brif Weinidog. Ond nid oes ganddo ddigon o stamina i frwydro i'r eithaf.

Rhaid i ni fwrw iddi, felly. Nid yw newid byth yn hawdd, ond mae'r canlyniadau'n cyfiawnhau'r ymdrech.

Rwyf wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf wedi gorfod cymryd sawl risg. Ond maen nhw wedi talu ar eu canfed.

Ac yn awr mae'r Ceidwadwyr Cymreig mewn sefyllfa gryfach nag ers cenhedlaeth.

Rwy'n credu'n angerddol bod gan y Ceidwadwyr Cymreig y weledigaeth a'r polisïau i wneud Cymru'n wlad well.

A hoffwn ddiolch i chi am eich holl gefnogaeth yn ystod y cyfnod hwnnw o newid - ond ni allwn sefyll yn ein hunfan.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyrraedd trobwynt. Carreg filltir.

Mae ein llwyddiannau yn 2003 a'n cynnydd ers hynny wedi gosod y sylfeini - sy'n bwysig ond nid yn ddigon. Rhaid i ni gymryd cam arall yn awr. Rhaid i ni gryfhau ein neges. Rhaid i ni ymdrechu'n galetach. Ni yw'r unig ddewis yn lle llywodraeth Lafur flinedig sydd wedi colli ei ffordd.

Ers cryn amser yn y Cynulliad mae wedi bod yn amlwg mai ni neu nhw yw'r unig ddewis. Nid oes yr un blaid arall yn ddigon da.

Ni yw'r unig ddewis credadwy; yr unig weledigaeth rhwng y dde a'r canol i Gymru; yr unig ddewis.

Mae'r polisïau sydd gennym ar gyfer yr etholiad nesaf yn mynd i greu dyfodol disglair a chyffrous i Gymru.

Brogarwch. Dewis. Gwasanaethau cyhoeddus cryf. Dwyieithrwydd. Economi ffyniannus. Amgylchedd cynaliadwy. Mae'r ffordd ymlaen yn glir.

Ymhen chwe mis, os ydym yn parhau i weithio'n galed, gwrando a newid, bydd tirwedd wleidyddol Cymru yn dra gwahanol.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn mynd â Chymru i gyfeiriad newydd."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech