Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Francis: Labour is failing the Welsh language

Speech to the National Assembly for Wales.

"It is interesting to note that the 'Iaith Pawb' document places sizeable emphasis on the importance of the Welsh Language Board. Despite the fact that the Government wishes to take the Welsh Language Board under its wing, it has never come up with a detailed plan of how that would benefit the aims of the 'Iaith Pawb' strategy.

Similarly, no details have been forthcoming on how bringing the Welsh Language Board into the fold of the Government would be in any way advantageous.

The Government's consultation document did not give us any idea as to how mainstreaming the Welsh language would occur. All of the Welsh Language Board's meetings are currently open to the public.

How would the Assembly Government be more open and transparent than that? It does not tell us. In its consultation response, Newport City Council points to its disappointment that the document does not fully explore the issues raised by the merger, such as how the fact that the Minister is proposed as chair of the ministerial advisory group post merger will affect agenda setting, decision making, procedures, openness and accountability.

Given that the Government has found itself in this mess of its own making, it is not surprising that the Minister announced last week that the merger would not go ahead for a year or so.

Many will be grateful for this breathing space, but the arrogance of the Government took our breath away when it became apparent that freedom of information papers disclosed that numerous work streams had been pushing forward the ongoing merger process in spite of, and in defiance of, the majority vote taken by the Assembly last October, as well as the further investigations that were undertaken by the auditor general as to whether public funds were being used to abolish the board following that resolution to bring matters to a halt.

Minister, will you give us your assurance today that these numerous work streams to facilitate the merger will cease, and that you will stop wasting public money against the will of the Assembly, as well as wasting the time and energy of the Welsh Language Board, which has had to devote itself to these tasks, deviating from what its work should really be all about?

While the 2000 census told us how many people spoke Welsh, it did not give us any information as to how the language was used or in what depth. However, we know that the fluency connected with Welsh is significantly threatened at community level and that languages are constantly evolving within their social context.

The Welsh Language Board recognises that the principle of language rights forms the basis of language planning, and that, sadly, is virtually absent here in Wales.

The current legislation does not address clear language rights for the public and, therefore, the time is now right for a detailed discussion on recognising the rights of the speakers of both our national languages.

For example, last week, I asked whether it was acceptable for some community councils in Wales to produce their agendas and minutes in the Welsh language only, as I and others believe that that could be in breach of the European convention on human rights.

There must be clarity about what language users can expect, which could, in turn, promote the practical use of Welsh by the public and, importantly, would lead to raising the confidence of language users.

As Ieuan Wyn Jones has said, one of the major weaknesses in the current Welsh language legislation is that it does not place a duty on bodies to provide information to the Welsh Language Board as part of any statutory investigation into the implementation of language schemes.

That leads me on to our amendments 5 and 6, and I will explain them for the Minister, because it does not really surprise me that he does not want to support them.

In July 2005, the director of education of Carmarthenshire County Council wrote to the leader of the Welsh Conservatives explaining that specific school reorganisation considerations should be determined and developed only with relevant stakeholders, that we should all be assured that there would be opportunities for full and extensive consultation at appropriate times, and that Carmarthenshire's modernisation of education provision was designed to foster the Welsh language, rather than to have any adverse implications.

However, as we saw with Mynydd Cerrig Primary School in Carmarthenshire, the county council has limited its consultation to the minimum possible, by allowing only a month for the consideration of the school's entire future, and by sending its document only to those bodies that it was obliged to send it to, rather than attempting to hold an open and honest discussion in the local community, as was done by officials at Ceredigion and Gwynedd.

In truth, it is a farce to hold a consultation in that way. Worst of all, Carmarthenshire County Council does not even intend to discuss the matter.

The Minister for Education, Lifelong Learning and Skills—and I am pleased that she is here for this debate—would doubtless say what she always says on these occasions, namely that it is not a matter for her, even though Carmarthenshire County Council would tell us that its programme of school closures is due to guidance issued to it by the Welsh Assembly Government.

It is time for the Minister to stop using the subsidiarity argument, and time for her to stop using the 'Not me, guv; I'm the guv' approach."

"Mae'n ddiddorol nodi bod y ddogfen 'Iaith Pawb' yn gosod cryn bwyslais ar bwysigrwydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Er gwaethaf y ffaith bod y Llywodraeth am gymryd Bwrdd yr Iaith Gymraeg o dan ei hadain, nid yw erioed wedi cynnig cynllun manwl i ddangos sut y bydd hynny o fudd i amcanion strategaeth 'Iaith Pawb'.

Yn yr un modd, nid ydyw wedi cynnig manylion ynghylch sut y bydd dwyn bwrdd yr iaith i mewn i gorlan y Llywodraeth yn fanteisiol mewn unrhyw ffordd.

Ni roddodd dogfen ymgynghori'r Llywodraeth unrhyw syniad inni ynghylch sut y byddai prif-ffrydio'r Gymraeg yn digwydd. Mae holl gyfarfodydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn agored i'r cyhoedd ar hyn o bryd.

Sut y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn fwy agored a thryloyw na hynny? Nid yw'n dweud wrthym. Yn ei ymateb i'r ymgynghoriad, cyfeiria Cyngor Dinas Casnewydd at ei siom nad yw'r ddogfen yn archwilio'n llawn y cwestiynau a godir gan yr uno, megis sut y bydd y ffaith y cynigir y Gweinidog i gadeirio'r grwp cynghori gweinidogol wedi'r uno yn effeithio ar y modd y gosodir agendau, ar benderfyniadau, gweithdrefnau, a'i allu i fod yn agored ac yn atebol.

Gan fod y llywodraeth wedi'i chael ei hun yn y llanast hwn o'i gwneuthuriad ei hun, nid yw'n syndod i'r Gweinidog gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf na fyddai'r uno'n digwydd am ryw flwyddyn.

Bydd llawer yn ddiolchgar am y cyfle hwn i gael ein gwynt, ond yr oedd hyfdra'r Llywodraeth yn mynd â'n gwynt pan ddaeth yn amlwg fod papurau rhyddid gwybodaeth yn dangos fod sawl ffrwd waith wedi bod yn gwthio'r broses uno yn ei blaen, a hynny er gwaethaf, ac yn nannedd, y bleidlais drwy fwyafrif a gymerwyd gan y Cynulliad fis Hydref diwethaf, yn ogystal â'r ymchwiliadau pellach a wnaethpwyd gan yr archwiliwr cyffredinol i ganfod a oedd arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i ddiddymu'r bwrdd yn dilyn y penderfyniad hwnnw i atal y broses.

Weinidog, a roddwch sicrwydd inni heddiw y bydd terfyn ar y ffrydiau gwaith niferus hyn i hwyluso'r uno, ac y rhoddwch y gorau i wastraffu arian cyhoeddus yn groes i ewyllys y Cynulliad, yn ogystal â gwastraffu amser ac egni Bwrdd yr Iaith Gymraeg, sydd wedi gorfod rhoi ei holl sylw i'r tasgau hyn, gan droi oddi wrth yr hyn a ddylai fod yn brif destun ei waith?

Pan ddywedodd cyfrifiad 2000 wrthym faint o bobl oedd yn medru'r Gymraeg, ni roddodd unrhyw wybodaeth inni ynghylch sut y defnyddid yr iaith nac i ba ddyfnder. Fodd bynnag, gwyddom fod rhuglder yn y Gymraeg dan fygythiad arwyddocaol ar lefel gymunedol a bod ieithoedd yn esblygu o hyd o fewn eu cyd-destun cymdeithasol.

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn sylweddoli bod egwyddor hawliau iaith yn ffurfio'r sail i gynllunio iaith, ac mae hynny, ysywaeth, yn absennol i bob pwrpas yma yng Nghymru. Nid yw'r ddeddfwriaeth gyfredol yn rhoi sylw i hawliau iaith clir i'r cyhoedd, ac felly, dyma'r amser i gael trafodaeth fanwl ynglyn â chydnabod hawliau siaradwyr ein dwy iaith genedlaethol.

Er enghraifft, yr wythnos ddiwethaf, gofynnais a oedd yn dderbyniol i rai cynghorau cymuned yng Nghymru lunio'u hagendâu a'u cofnodion yn y Gymraeg yn unig, gan fy mod i ac eraill yn credu y gallai hynny fod yn groes i'r cytundeb Ewropeaidd ar hawliau dynol.

Rhaid wrth eglurder ynghylch beth y gall defnyddwyr iaith ei ddisgwyl, a allai, yn ei dro, hyrwyddo defnydd ymarferol o'r Gymraeg gan y cyhoedd, gan arwain, yn bwysig, at godi hyder defnyddwyr iaith.

Fel y dywedodd Ieuan Wyn Jones, un o'r prif wendidau yn y ddeddfwriaeth gyfredol ar yr iaith Gymraeg yw nad yw'n gosod dyletswydd ar gyrff i ddarparu gwybodaeth i Fwrdd yr Iaith Gymraeg fel rhan o unrhyw ymchwiliad statudol i weithrediad cynlluniau iaith.

Mae hynny'n fy arwain ymlaen at ein gwelliannau 5 a 6, ac fe'u hesboniaf i'r Gweinidog, oherwydd nid yw'n syndod imi mewn gwirionedd nad oes arno eisiau eu cefnogi.

Ym mis Gorffennaf 2005, ysgrifennodd cyfarwyddwr addysg Cyngor Sir Caerfyrddin at arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn egluro y dylai ystyriaethau ad-drefnu ysgolion penodol gael eu penderfynu a'u datblygu gyda rhanddeiliaid perthnasol yn unig, y dylem i gyd deimlo'n dawel ein meddwl y ceid cyfleoedd i ymgynghori'n llawn a thrwyadl ar adegau priodol, a bod Sir Gaerfyrddin, wrth foderneiddio'i darpariaeth addysg, â'i bryd ar feithrin yr iaith Gymraeg, yn hytrach na chael unrhyw oblygiadau anffafriol.

Fodd bynnag, fel y gwelsom gydag Ysgol Gynradd Mynydd Cerrig yn sir Gaerfyrddin, mae'r cyngor sir wedi cyfyngu'r ymgynghori i'r lleiafswm posibl, drwy gynnig mis yn unig i ystyried holl ddyfodol yr ysgol, a thrwy anfon ei ddogfen yn unig at y cyrff hynny yr oedd rheidrwydd arno i wneud, yn hytrach na cheisio arwain trafodaeth agored a gonest yn y gymuned leol, fel y gwnaeth swyddogion Ceredigion a Gwynedd. Mewn gwirionedd, ffars yw ymgynghori mewn ffordd fel hyn. Gwaethaf oll, nid yw Cyngor Sir Gâr yn bwriadu trafod y mater hyd yn oed.

Byddai'r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau—ac yr wyf yn falch ei bod hi yma ar gyfer y ddadl hon—yn siwr o ddweud yr hyn y bydd hi wastad yn ei ddweud ar yr achlysuron hyn, sef nad mater iddi hi mohono, er y dywedai Cyngor Sir Gâr wrthym fod ei raglen gau ysgolion yn ganlyniad arweiniad a roddwyd iddo gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'n bryd i'r Gweinidog roi'r gorau i ddefnyddio dadl sybsidiariti, ac yn bryd iddi roi'r gorau i ddefnyddio'r dull 'Nid y fi, bòs; fi yw'r bòs'.

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech