Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Glyn Davies: Government must not get away with further council tax hikes

Speech to the National Assembly for Wales.

"Brynle Williams has set out the Conservative concerns about what seems to us to be the overly high levels of council tax. That gives me the opportunity to speak more generally about how local government is funded, and to comment, albeit briefly, on my vision of what local government should be in Wales.

During the nearly 30 years in which I have been involved in public life in Wales, local government funding has been a recurring and controversial issue. It is inextricably linked to other controversial issues.

Apart from the financial demands on people and businesses in a local area—the affordability issue—there is the accountability of local government, namely the control that it has on a sizeable proportion of its income. Then there is the appropriate balance between centralism and localism, which is a fashionable word now.

Fundamentally, if the financial discipline that we want to see in local government is there, councils must be responsible for raising at least half the money that they spend. I accept that I cannot have it both ways; despite my belief in local councils, the funding of education and social services should be transferred to the Assembly Government.

I accept the charge that there is an element of centralism within that. However, such is the increasing involvement of the National Assembly in these two fields that I do not believe that it would make that much difference. If we are to have genuinely accountable local government, I cannot see how we can go down any other road.

In principle, I support council tax, for much the same reason that I supported the rates in the early 1980s. I do not support, as many Assembly Members do, funding local government based on income tax, whether that be local—and many Members argue that cause—or national, which I believe the Prime Minister has intimated sometimes he favours.

I do not have time to fully go into the practical reasons why I oppose income tax, but, essentially, councils would cease to be local in any meaningful sense if their funding came entirely from the income tax system. In any case, we will now have to wait until Sir Michael Lyons reports in 2007 to have that debate.

There is one other point that I want to touch upon, which is to accept what I see as the Minister's challenge today. I repeat that I support the principle of council tax, but because it is essentially a regressive tax, it is only credible if it is at what we consider to be an affordable level. It will not be our judgment of whether it is affordable, but that of the people who pay it.

For several years in the Chamber, I have opposed the Government's annual decisions that have meant substantial increases in council tax. I will deal with the response that the First Minister often gives—he gave it yesterday, and the Minister has repeated it in her introductory speech.

Council tax increases from 1993 to 1997 were higher than the increases between 1997 and the present day. There was a particularly high increase in 1997, the final year before the Government came into power. That is a good debating point, but it is a point that works only in political debates.

It is playing games with percentages and it does not work with the people who have to pay. If a bill goes up from £1 to £10, that is a 1,000 per cent increase. If it goes up from £1,001 to £1,010, that is a 1 per cent increase, yet the impact on the person who pays is exactly the same under both systems.

The issue is the amount of money that people have to pay. The reality is that council tax has become unaffordable; it is simply too high. It hits the most vulnerable people in Wales the hardest.

For many years, the Government has got away with it. It has not had the outcry that it has deserved. Almost ironically, it is the revaluation system that has brought the whole thing crashing down on its head.

All that I can say to you, Minister, is that if you do not recognise, in the revised budget that you will bring forward, the reality that council tax is too high and that the people of Wales are outraged, I believe that you will lose your budget. You will deserve to lose it, and you will deserve to be hounded from office."

"Mae Brynle Williams wedi nodi pryderon y Ceidwadwyr ynghylch yr hyn sy'n ymddangos i ni yn lefelau rhy uchel o dreth gyngor. Rhydd hynny gyfle imi siarad yn fwy cyffredinol am sut yr ariennir llywodraeth leol, ac i roi sylwadau byr ar fy ngweledigaeth o'r hyn y dylai llywodraeth leol fod yng Nghymru.

Yn ystod y cyfnod o bron i 30 mlynedd yr wyf wedi bod yn rhan o fywyd cyhoeddus yng Nghymru, mae ariannu llywodraeth leol wedi bod yn fater dadleuol sy'n codi dro ar ôl tro. Ceir cyswllt annatod rhyngddo a materion dadleuol eraill.

Ar wahân i'r gofynion ariannol ar bobl a busnesau mewn ardal leol—y mater fforddiadwyedd—ceir atebolrwydd llywodraeth leol, sef y ffordd y mae'n rheoli cyfran sylweddol o'i hincwm. Ceir hefyd y cydbwysedd priodol rhwng canoliaeth a lleoliaeth, sy'n air ffasiynol ar hyn o bryd.

Yn y bôn, os yw'r ddisgyblaeth ariannol yr ydym am ei gweld mewn llywodraeth leol yn bodoli, rhaid i gynghorau fod yn gyfrifol am godi o leiaf hanner yr arian y maent yn ei wario. Derbyniaf na allaf ennill bob ffordd; er gwaethaf fy nghred mewn cynghorau lleol, dylid trosglwyddo'r cyfrifoldeb am ariannu addysg a gwasanaethau cymdeithasol i Lywodraeth y Cynulliad. Derbyniaf yr honiad fod rhywfaint o ganoliaeth yn gysylltiedig â hynny.

Fodd bynnag, cymaint yw cyfranogiad cynyddol y Cynulliad Cenedlaethol yn y ddau faes hyn fel na chredaf y byddai'n gwneud cymaint â hynny o wahaniaeth. Os ydym am gael llywodraeth leol sy'n wirioneddol atebol, ni welaf unrhyw opsiwn arall.

Mewn egwyddor, yr wyf yn cefnogi'r dreth gyngor, am yr un rheswm ag yr oeddwn yn cefnogi'r ardrethi ar ddechrau'r 1980au. Ond yn wahanol i lawer o Aelodau'r Cynulliad, nid wyf yn cefnogi'r awgrym y dylid ariannu llywodraeth leol yn seiliedig ar dreth incwm, boed hynny'n lleol—ac mae llawer o Aelodau'n dadlau dros hynny—neu'n genedlaethol, y mae Prif Weinidog y DU wedi awgrymu weithiau ei fod yn ei ffafrio, fe gredaf.

Nid oes gennyf amser i egluro'r rhesymau ymarferol sydd gennyf dros wrthwynebu treth incwm, ond ei hanfod, byddai cynghorau yn peidio â bod yn lleol mewn unrhyw ffordd ystyrlon pe bai eu harian cyfan yn dod o'r system treth incwm. Beth bynnag, bydd yn rhaid inni aros yn awr tan adroddiadau Syr Michael Lyons yn 2007 i gael y ddadl honno.

Mae un pwynt arall yr wyf am ei grybwyll, sef derbyn yr hyn a welaf fel her y Gweinidog heddiw. Unwaith eto, dywedaf fy mod yn cefnogi egwyddor y dreth gyngor, ond am ei bod yn dreth atchweliadol yn y bôn, dim ond os yw ar yr hyn sy'n lefel fforddiadwy yn ein barn ni y bydd yn gredadwy. Nid ni fydd yn penderfynu a yw'n fforddiadwy, ond y bobl sy'n ei thalu.

Ers sawl blwyddyn yn y Siambr, yr wyf wedi gwrthwynebu penderfyniadau blynyddol y Llywodraeth sydd wedi golygu cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor. Ymdriniaf â'r ymateb y mae'r Prif Weinidog yn aml yn ei roi—fe'i rhoddodd ddoe, ac mae'r Gweinidog wedi ei ailadrodd yn ei haraith ragarweiniol.

Yr oedd y cynnydd yn y dreth gyngor o 1993 i 1997 yn uwch na'r cynnydd rhwng 1997 a heddiw. Bu cynnydd arbennig o uchel yn 1997, y flwyddyn olaf cyn i'r Llywodraeth ddod i rym. Mae hynny'n bwynt dadlau da, ond mae'n bwynt nad yw ond yn gweithio mewn dadleuon gwleidyddol.

Chwarae gêm â chanrannau yw hyn ac nid yw'n gweithio gyda'r bobl sy'n gorfod talu. Os bydd bil yn cynyddu o £1 i £10, mae hynny'n gynnydd o 1,000 y cant. Os bydd yn cynyddu o £1,001 i £1,010, mae hynny'n gynnydd o 1 y cant, ac eto mae'r effaith ar y person sy'n talu yn union yr un fath o dan y ddwy system.

Y broblem yw swm yr arian y mae'n rhaid i bobl ei dalu. Y gwir yw nad yw'r dreth gyngor mwyach yn fforddiadwy; mae'n rhy uchel. Mae'n effeithio fwyaf ar y bobl fwyaf diamddiffyn yng Nghymru.

Ers blynyddoedd lawer, mae cynlluniau'r Llywodraeth wedi cael eu derbyn. Ni chafodd y protestiadau y mae wedi eu haeddu. Bron yn eironig, y system ailbrisio sydd wedi gwir amlygu'r sefyllfa. Y cyfan y gallaf ei ddweud wrthych, Weinidog, yw hyn.

Os nad ydych yn cydnabod, yn y gyllideb ddiwygiedig y byddwch yn ei chyflwyno, mai'r gwir yw bod y dreth gyngor yn rhy uchel a bod pobl Cymru wedi gwylltio, credaf y byddwch yn colli eich cyllideb. Byddwch yn haeddu ei cholli, a byddwch yn haeddu cael eich gorfodi i adael eich swydd."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech