Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Francis: Safeguarding the future of the Welsh language

Speech to the National Assembly for Wales.

"Fel plaid, nid ydym erioed wedi credu bod Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod bod angen cadw swyddogaeth hanfodol, neilltuol ac annibynnol Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Mae pryder mawr y bydd diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn arwain at wneud yr iaith yn fater gwleidyddol. Dros y blynyddoedd, mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi gweithio llawer gyda'r sector preifat, ac nid yw Llywodraeth y Cynulliad mewn sefyllfa i allu ymgymryd â'r gwaith hwnnw.

Mae'n amlwg bod penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan gyrff arbenigol, amhleidiol yn llai tebygol o fod yn agored i ystrywiau gwleidyddol na rhai a wneir yn uniongyrchol gan y Llywodraeth.

Yr ydym wedi cael ar ddeall y bydd swydd y dyfarnydd neu'r rheolydd yn delio â swyddogaethau rheoliadol, gan oruchwylio cynlluniau iaith Gymraeg pan fydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn peidio â bod. Fodd bynnag, bydd y swydd hon yn cael ei sefydlu ar lefel ymgynghorol cyn cael ei throi'n un statudol. Bydd hyn yn rhwym o arwain at ansicrwydd a bydd yn gwanhau'r sefyllfa bresennol.

Hefyd, nid yw rôl y dyfarnydd, fel y'i gelwir wedi ei diffinio'n fanwl hyd yma. Dywedwyd wrthym y bydd, yn y cyfnod interim cyn iddi gael swyddogaeth statudol, ddulliau diogelu'n cael eu cyflwyno a fydd yn sicrhau didwylledd a thryloywder gwaith a chyngor y rheolydd. Fodd bynnag, ac mae hyn yn gwbl nodweddiadol o Lafur Cymru, ni chafwyd manylion am y dulliau diogelu eto.

Dyheadau a geiriau mwyn ydynt unwaith eto—gwr diarth, yw yfory.

Gofynnais i'r Gweinidog am wybodaeth fanwl ar y mater hwn fis Mai diwethaf, ond nid wyf wedi derbyn dim; mae hyn yn dechrau mynd yn dipyn o arferiad. Efallai mai'r gwir trist yw nad oes unrhyw wybodaeth ar gael, Weinidog, ond er hynny yr ydych yn benderfynol o'n harwain i faes cwbl ddieithr.

Ar adeg pan fo'r prif arolygydd ysgolion yn ein rhybuddio bod angen gwella dysgu Cymraeg fel ail iaith, yr ydym yn poeni na fydd pob awdurdod lleol yng Nghymru'n glynu wrth eu cynlluniau iaith pan fyddant yn ceisio newid neu adolygu eu darpariaeth addysg Gymraeg mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn brif iaith.

Mae dyfodol yr iaith yn nwylo ein plant, ac felly mae addysg yn hanfodol bwysig i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Mae prinder gwybodaeth fanwl am rôl a chyfrifoldebau'r dyfarnydd yn golygu na ydym yn fodlon nac wedi'n hargyhoeddi y bydd ef neu hi'n eiriolwr annibynnol dros y Gymraeg.

Mae cyfrifoldeb ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg i gynghori'r Cynulliad ar faterion ynghylch yr iaith Gymraeg. Os bydd y bwrdd yn cael ei ddiddymu, pwy fydd yn rhoi cyngor?

Beth yn union y mae'r Llywodraeth yn gobeithio'i gyflawni trwy ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg? Yr ydym yn aros am eich ateb, Weinidog."

"As a party, we have never believed that the Welsh National Assembly Government acknowledges that there is a need to maintain the Welsh Language Board's essential, specific and independent function.

There is grave concern that the abolition of the Welsh Language Board will lead to the politicisation of the language. Over the years, the Welsh Language Board has done much work with the private sector, and the Assembly Government is not equipped to take on that work.

It is obvious that decisions that are taken by specialist, impartial bodies are less likely to be the subject of political mischief-making than those taken directly by the Government.

We are given to understand that the office of the dyfarnydd or regulator will deal with regulatory functions, overseeing Welsh language schemes when the Welsh Language Board ceases to exist. However, this office is to be set up on an advisory basis before converting to a statutory basis. This will surely lead to uncertainty and will weaken the current position.

In addition, the role of the so-called dyfarnydd has yet to be defined in detail. We have been told that, during the interim period before it converts to a statutory basis, safeguards will be put in place that will ensure the integrity and transparency of the regulator's work and advice. However, in true Welsh Labour style, the safeguards have not yet been detailed.

Once again, they are just warm words and aspirations - nobody knows what tomorrow will bring.

I asked the Minister for detailed information on this issue last May, but still there is nothing forthcoming; that is becoming something of a habit. Perhaps the sad reality is that you have no information available, Minister, yet you seem hell-bent on steering us into uncharted waters.

At a time when the chief inspector of schools warns us that the teaching of Welsh as a second language needs to be improved, we are concerned that there may be a danger that not all local authorities in Wales will conform to their language schemes when they seek to change or review Welsh-language educational provision in predominantly Welsh-speaking areas.

The future of the language is in our children's hands, and therefore education is of crucial importance to the Welsh Language Board.

The lack of detailed information on the role and responsibilities of the dyfarnydd means that we are still not satisfied or convinced that he or she will be an independent champion of the Welsh language.

The Welsh Language Board has a responsibility to advise the Assembly on issues relating to the Welsh language. If the board is abolished, who will give advice?

Exactly what does this Government think it will achieve by removing the Welsh Language Board? We await your answer, Minister."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech