Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Glyn Davies: Bird flu threat must be taken seriously

Speech to the National Assembly for Wales.

"The effect of the Order before us today will be to add avian flu and Newcastle disease to the list of notifiable diseases under section 14A of the Animal Health Act 1981.

We support the Order, but this debate gives us an opportunity to highlight the enormity of the threat that the current outbreak of the avian flu virus H5N1 represents.

I have been raising concerns about the threat from virus H5N1 for several months but, over recent days, comments made by experts in the field have provided a startling wake-up call for us all.

For example, the Chief Medical Officer for England, Liam Donaldson, has said that an outbreak of avian flu in Britain is 'inevitable'.

It may seem that virus H5N1 is a low risk and a long way away; I have even heard what seems to me to be the totally bizarre suggestion that we are being alarmist, but it is always easy to underrate silent killers.

The virus began in China in 1997 and has spread to various countries in Asia and eastern Europe. It has reached migrating birds in Siberia, which will be migrating to and over Britain - including Wales - in their millions over the next few weeks.

I was pleased, as was Jenny Randerson, to hear a report this morning that there will be testing of widgeon and teal that have been found dead at the Llanelli wetlands centre. At least this is being taken seriously there.

We know that virus H5N1 has spread from birds to humans, and has killed around 60 people, but it has not yet spread from human to human. However, experts are telling us that there is a real possibility of this virus combining with a more usual human influenza virus.

If this were to happen, David Nabarro, the United Nation's co-ordinator of international responses, has predicted that up to 150 million could die. A UK contingency plan, which was prepared only six months ago, estimated that 50,000 people in Britain might die.

Since then, the civil contingencies group in the Cabinet Office has raised that figure to 600,000.

There is not a great deal that the Assembly Government can do about the progress of the virus, but we have to be satisfied that it is doing everything possible to prepare for a pandemic.

Experts tell us that it may be possible to control an outbreak, but this depends on the highest possible level of surveillance, and a thoroughly worked-through contingency plan. That is not what we are led to believe is happening.

I read this week that Dr Roland Salmon, from the Wales communicable diseases surveillance centre believes that Wales is not prepared to deal with pandemic flu.

Even worse, I read this week that global preparations against the pandemic are being compromised by British delays in funding critical vaccine research. This research is vital; we know at present that far too large a dose of vaccine is needed to counteract the virus. There will not be enough vaccine. There is so much work to do.

I accept that none of us knows the exact status of these various claims, and my aim today is not to criticise the Assembly Government.

I expect the Minister and the Assembly Government to do everything possible to maximise pandemic preparedness. In 1918, the so-called 'Spanish flu' - a virus believed to have mutated from an avian influenza virus - killed up to 40 million people, more than were killed in the first world war. That is the scale of the tragedy that could be creeping over the horizon.

I can think of nothing that should have a higher priority in the Assembly Government's programme. I have been disappointed that the Minister has not kept us up to date on the progress of this virus; it gives the impression that the Government is not taking the matter seriously.

The reality is that a devastating virus is moving inexorably towards our shores. We demand that the Government makes certain that we, in Wales, are as ready as we can be to confront it."

"Effaith y Gorchymyn ger ein bron fydd ychwanegu ffliw adar a chlefyd Newcastle at y rhestr o glefydau hysbysadwy o dan adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

Yr ydym yn cefnogi'r Gorchymyn, ond mae'r ddadl hon yn rhoi cyfle inni i dynnu sylw at anferthedd y bygythiad y mae'r heintiad presennol o firws ffliw adar H5N1 yn ei gynrychioli. Yr wyf wedi bod yn codi pryderon am fygythiad y firws H5N1 ers sawl mis ond, dros y dyddiau diwethaf, mae sylwadau a wnaethpwyd gan arbenigwyr yn y maes wedi rhoi hergwd frawychus i bawb ohonom.

Er enghraifft, mae Prif Swyddog Meddygol Lloegr, Liam Donaldson, wedi dweud bod heintiad o ffliw adar ym Mhrydain yn 'anochel'.

Efallai ei bod yn ymddangos bod firws H5N1 yn risg isel ac yn bell i ffwrdd; yr wyf hyd yn oed wedi clywed yr hyn sy'n ymddangos i mi'n awgrym cwbl od sef ein bod yn codi bwganod, ond mae bob amser yn hawdd peidio â sylweddoli grym lladdwyr cudd.

Dechreuodd y firws yn Tsieina yn 1997 ac mae wedi lledaenu i amryw o wledydd yn Asia a dwyrain Ewrop. Mae wedi cyrraedd adar ymfudol yn Siberia, a fydd yn ymfudo i a thros Brydain - yn cynnwys Cymru - yn eu miliynau dros yr wythnosau nesaf. Yr oeddwn yn falch, fel yr oedd Jenny Randerson, o glywed adroddiad y bore yma y bydd profion yn cael eu cynnal ar chwiwellau a chorhwyaid a ganfuwyd yn farw yng nghanolfan gwlyptiroedd Llanelli. O leiaf mae hyn yn cael ei gymryd o ddifrif yno.

Gwyddom fod firws H5N1 wedi lledaenu o adar i bobl, a'i fod wedi lladd tua 60 o bobl, ond nid yw eto wedi lledaenu o berson i berson. Fodd bynnag, mae'r arbenigwyr yn dweud wrthym fod posibilrwydd gwirioneddol y gallai'r firws hwn gyfuno â firws ffliw dynol mwy arferol. Pe bai hyn yn digwydd, mae David Nabarro, cyd-drefnydd ymatebion rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig, wedi darogan y gallai hyd at 150 miliwn farw.

Amcangyfrifai cynllun wrth gefn i'r DU, nas paratowyd ond chwe mis yn ôl, y gallai 50,000 o bobl farw ym Mhrydain. Ers hynny, mae'r grwp argyfyngau sifil posibl yn Swyddfa'r Cabinet wedi cynyddu'r ffigwr hynny i 600,000.

Nid oes llawer y gall Llywodraeth y Cynulliad ei wneud am hynt y firws, ond rhaid inni fod yn fodlon ein bod yn gwneud popeth posibl i baratoi ar gyfer pandemig.

Dywed arbenigwyr wrthym y gallai fod yn bosibl efallai rheoli heintiad, ond mae hyn yn dibynnu ar y lefel uchaf bosibl o arolygu, a chynllun wrth gefn sydd wedi cael ei weithio allan yn hynod o drylwyr. Yr ydym yn cael ein harwain i gredu nad yw hynny'n digwydd.

Darllenais yr wythnos hon fod Dr Roland Salmon, o ganolfan arolygu clefydau trosglwyddadwy Cymru yn credu nad yw Cymru yn barod i ddelio â ffliw bandemig. Yn waeth fyth, darllenais yr wythnos hon fod paratoadau byd-eang yn erbyn y pandemig yn cael eu bygwth gan oedi ym Mhrydain cyn cyllido ymchwil holl bwysig i frechlynnau.

Mae'r ymchwil yn dyngedfennol; gwyddom ar hyn o bryd fod angen dos llawer rhy fawr o frechlyn i wrthweithio'r firws. Ni fydd digon o'r brechlyn. Mae cymaint o waith i'w wneud.

Yr wyf yn derbyn nad oes neb ohonom yn gwybod union statws y gwahanol honiadau hyn, ac nid beirniadu Llywodraeth y Cynulliad yw fy nod heddiw.

Yr wyf yn disgwyl i'r Gweinidog a Llywodraeth y Cynulliad wneud popeth posibl i sicrhau ein bod mor barod â phosibl ar gyfer pandemig. Yn 1918, lladdodd y 'ffliw Sbaenaidd' fel yr oedd yn cael ei galw—firws y credir ei fod wedi mwtanu o firws ffliw adar—hyd at 40 miliwn o bobl, mwy nag a laddwyd yn y rhyfel byd cyntaf. Dyna raddfa'r drasiedi a allai fod yn nesau dros y gorwel.

Ni allaf feddwl am ddim a ddylai gael blaenoriaeth uwch yn rhaglen Llywodraeth y Cynulliad. Yr wyf wedi fy siomi nad yw'r Gweinidog wedi bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am hynt y firws; mae'n rhoi'r argraff nad yw'r Llywodraeth yn cymryd y mater o ddifrif.

Y realiti yw bod firws distrywiol yn symud yn ddi-ildio tuag at ein glannau. Yr ydym yn mynnu bod y Llywodraeth yn gwneud yn sicr ein bod ni, yng Nghymru, mor barod ag y gallwn fod i'w wynebu."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech