Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Cairns: Government must recycle its renewable energy policy

Speech to the National Assembly for Wales.

"I propose the Conservative Party's motion, which calls on the Government to review its renewable energy policy, to redraft technical advice note 8 and to encourage and facilitate new forms of renewable energy, thus reducing its emphasis on wind.

Central to our concerns is that TAN 8 is a quick fix to reach Government targets that, in the long term, will do little to make a difference to global warming, but which will, in the short term, destroy our landscape and seascape, and the tourist economy that depends on our natural environment.

The origins of this policy extend from the former Economic Development Committee's energy review, and the Conservative Party has been consistent throughout.

We have always highlighted that this would be the eventual outcome of the policy, which is why we voted against it at each stage. It will be interesting to note how individual Members and parties will vote on the motion.

The Conservative Party will vote against the first two amendments, but in favour of amendments 3 and 4.

The marketing and branding of Wales for much of the last century was hampered by the scars of heavy industry—slag and coal tips, among other things.

During the latter part of the century, successive Governments made a conscious effort to reclaim the land. As a result the way in which people from outside Wales view the country has been transformed.

They now see unspoilt landscape and seascape, and the tourist economy has flourished. However, TAN 8, and the Government's overemphasis on wind power, means that tourism, the fastest growing sector of the economy, will be damaged enormously.

Rural Wales has suffered significantly over recent times and the wealth gap between rural and urban parts has grown dramatically, with rural areas being the poorer relation.

When the Assembly was formed in 1999, tourism became central to bridging that divide. This demonstrates the Government's inconsistency.

On the one hand it sets stretching targets to grow tourism spend by 6 per cent per annum, but, on the other, it proposes to cover the best parts—the natural assets of Wales—with wind turbines.

I am sure that you would not say that the only attractive part of Wales is Snowdonia national park, and there are proposals to put wind turbines elsewhere in Wales, in many attractive areas that depend on the tourist industry.

The feedback, and the original research from the Wales Tourist Board, shows that turbines will damage tourism. The impact on the economy is why it recommended against wind turbines, and why national park authorities are against locating them within the national parks.

The timing of this debate is useful, in that it is almost a year to the week since I tabled a notice of dissatisfaction against the Government's plans to sanction the erection of 30 wind turbines a short distance from the shoreline of Porthcawl.

I do not wish to repeat that debate, but it is important to highlight the efforts made by the Labour Party machine to secure that decision, despite the independent inspector's recommendation against it.

The Secretary of State for Wales, even, had a private reception with the managing director of the developers.

That led Peter Hain to send a letter to the First Minister with the clear instruction that he would like the scheme to go ahead.

These letters had to be prised from the Welsh Assembly Government under European legislation, despite the Welsh Assembly Government's claim to be the most open Government in western Europe.

The implication of this intervention at the highest levels of the Labour Party disproves the Minister for the Environment, Planning and Countryside's key argument, that TAN 8 is only guidance.

That may well work in terms of deflecting pressure from his angry constituents, but he knows that the reality is that if a local authority rejects an application in one of the seven strategic search areas, the developers are likely to appeal to the Assembly, which would lead to the decision being overturned and costs awarded against the planning authority.

This has the effect of curtailing local judgment and centralising power in the Minister's hands.

Furthermore, TAN 8, as it stands, removes cumulative impact as a valid reason for objection.

Cumulative impact could offer a way out for many local authorities, which, knowing their areas better than anyone else, believe that the local tourism economy will be damaged.

Although Wales is only 8.5 per cent of the UK's landmass, it already has 50 per cent of the UK's wind turbines. That number will increase dramatically under TAN 8.

The Welsh Assembly Government's short-sighted approach means that other forms of renewable energy are being ignored.

If Wales is seen as such a convenient dumping ground for the UK's wind turbines, why should any company invest in wave, tidal or solar energy, or biomass or other renewable energy resources?

Earlier this month the Public Accounts Committee stated that the cost of subsidising the current green energy programmes was in the region of £1 billion a year. Wind, at 5.5p per kWh, is well above the cost of other reliable renewable energy sources.

Not only will TAN 8 and the Government's policy destroy the tourism economy in many rural parts, it centralises power. This, under a Government that claims to decentralise, demonstrates its inconsistency.

One thing, however, remains consistent: like every other policy that the Government has developed, it will not support the economy.

The Government looks forward to kicking in with its new document, 'WAVE'. If it only made more effort with wave power, we might support it."

"Cynigiaf gynnig y Blaid Geidwadol, sy'n galw ar y Llywodraeth i adolygu ei pholisi ynni adnewyddadwy, ailddrafftio nodyn cyngor technegol 8 ac annog a hwyluso ffurfiau newydd ar ynni adnewyddadwy, gan leihau'r pwyslais sydd ganddi ar wynt.

Sail ein pryderon yw mai ateb gwag yw TAN 8 er mwyn cyflawni targedau'r Llywodraeth ac na fydd, yn yr hirdymor, yn gwneud nemor ddim i ostwng y cynhesu byd-eang, ond a fydd, yn y byrdymor, yn dinistrio ein tirwedd a'n morlun, ynghyd ag economi twristiaeth, sy'n dibynnu ar ein hamgylchedd naturiol.

Mae gwreiddiau'r polisi hwn yn adolygiad ynni'r hen Bwyllgor Datblygu Economaidd, a bu'r Blaid Geidwadol yn gyson ar hyd yr adeg.

Yr ydym wastad wedi amlygu mai dyma fyddai canlyniad y polisi hwn yn y pen draw, a dyna pam y bu inni bleidleisio yn ei erbyn bob cam o'r daith. Bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd Aelodau unigol a phleidiau'n pleidleisio ar y cynnig.

Bydd y Blaid Geidwadol yn pleidleisio yn erbyn y ddau welliant cyntaf ond o blaid gwelliannau 3 a 4.

Tros ran helaeth o'r ganrif ddiwethaf bu creithiau'r diwydiannau trymion yn rhwystr o ran marchnata a brandio Cymru—tomennydd slag a glo, ymhlith pethau eraill.

Tua diwedd y ganrif, aeth y naill Llywodraeth a'r llall ati i adfer y tir. O ganlyniad cafodd y modd y bydd pobl o'r tu allan i Gymru'n gweld y wlad ei drawsffurfio. Bellach gwelant dirwedd a morlun sydd heb eu difetha, ac mae'r economi twristaidd wedi ffynnu.

Fodd bynnag, golyga TAN 8, a'r gorbwyslais a rydd y Llywodraeth ar ynni'r gwynt, y caiff twristiaeth, y sector o'r economi sy'n tyfu gyflymaf, ei niweidio'n ofnadwy.

Mae'r Gymru Wledig wedi dioddef yn helaeth yn ddiweddar ac mae'r bwlch o ran cyfoeth rhwng yr ardaloedd gwledig a'r ardaloedd trefol wedi cynyddu'n ddirfawr, a'r ardaloedd gwledig yw'r berthynas dlawd.

Pan ffurfiwyd y Cynulliad ym 1999, daeth twristiaeth yn beth sylfaenol bwysig o ran pontio'r gagendor hwnnw. Mae hyn yn dangos anghysondeb y Llywodraeth. Ar y naill law mae'n gosod targedau cadarn i gynyddu'r gwariant twristaidd o 6 y cant y flwyddyn, ond, ar y llaw arall, mae'n arfaethu gorchuddio'r rhannau gorau—asedau naturiol Cymru—â thyrbinau gwynt.

Yr wyf yn sicr na fyddech yn dweud mai parc cenedlaethol Eryri yw'r unig ran o Gymru sy'n ddeniadol, ac mae cynigion i osod tyrbinau gwynt mewn mannau eraill yng Nghymru, mewn nifer o ardaloedd deniadol sy'n dibynnu ar y diwydiant twristaidd.

Mae'r atborth, ac ymchwil gwreiddiol y Bwrdd Croeso, yn dangos y bydd tyrbinau'n peri niwed i dwristiaeth. Oherwydd yr effaith ar yr economi yr argymhellodd y dylid peidio â chodi tyrbinau gwynt, a dyna pam y mae awdurdodau'r parciau cenedlaethol yn erbyn eu codi mewn parciau cenedlaethol.

Mae amseriad y drafodaeth hon yn hwylus, gan mai blwyddyn bron sydd i'r wythnos er imi wneud cynnig o anfodlonrwydd yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth i ganiatáu codi 30 o dyrbinau gwynt nid nepell o lan y môr ym Mhorthcawl.

Nid wyf am ailadrodd y drafodaeth honno, ond mae'n bwysig amlygu ymdrechion peiriant y Blaid Lafur i sicrhau'r penderfyniad hwnnw, er gwaethaf argymhelliad yr arolygydd annibynnol yn ei erbyn. Cafodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru dderbyniad preifat gyda chyfarwyddwr rheoli'r datblygwyr, hyd yn oed.

Yn sgil hynny anfonodd Peter Hain lythyr at Brif Weinidog Cymru gyda chyfarwyddyd eglur yr hoffai i'r cynllun fynd rhagddo. Bu rhaid gwasgu'r llythyrau hyn o ddwylo Lywodraeth Cynulliad Cymru dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd, er gwaethaf honiadau Lywodraeth Cynulliad Cymru mai hi yw'r llywodraeth fwyaf agored yng ngorllewin Ewrop.

Mae goblygiadau'r ymyriad hwn yn uchelfannau'r Blaid Lafur yn gwrthbrofi dadl allweddol y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, mai arweiniad yn unig yw TAN 8.

Efallai fod hynny'n gweithio o ran troi'r pwysau o du ei etholwyr dig i'r naill ochr, ond mae'n gwybod mai'r gwir yw petai awdurdod lleol yn gwrthod cais yn un o'r saith ardal chwilio strategol, y bydd y datblygwyr yn debygol o apelio i'r Cynulliad, ac y byddai hynny'n arwain at wrth-droi'r penderfyniad a rhoddi costau yn erbyn yr awdurdod cynllunio.

Mae hyn yn cyfyngu ar y farn leol gan ganoli grym yn nwylo'r Gweinidog.

Hefyd, mae TAN 8, fel y mae, yn dileu effaith gronnus fel rheswm dilys dros wrthwynebu. Gallai effaith gronnus gynnig achubiaeth i lawer o awdurdodau lleol sy'n credu, o adnabod eu hardaloedd yn well na neb arall, y caiff yr economi twristaidd lleol ei niweidio.

Er nad oes gan Gymru ond 8.5 o dirfas y Deyrnas Unedig, mae ganddi eisoes 50 y cant o dyrbinau gwynt y Deyrnas Unedig. Bydd y niferoedd hynny'n cynyddu'n ddirfawr dan TAN 8.

Mae agwedd gibddall Llywodraeth Cynulliad Cymru'n golygu y caiff ffurfiau eraill ar ynni adnewyddadwy eu hanwybyddu. Os gwelir Cymru'n domen hwylus i dyrbinau gwynt y Deyrnas Unedig, pam y dylai unrhyw gwmni fuddsoddi yn ynni'r tonnau, ynni'r llanw neu ynni'r haul, neu fiomas neu adnoddau eraill sy'n cynnig ynni adnewyddadwy?

Yn gynharach y mis yma dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod cost sybsideiddio'r rhaglenni ynni gwyrdd cyfredol tua £1 biliwn y flwyddyn.

Mae cost ynni'r gwynt, sy'n 5.5c am bob kWh, yn llawer uwch na chost ffynonellau ynni adnewyddadwy dibynadwy eraill. Nid yn unig y bydd TAN 8 a pholisi'r Llywodraeth yn dinistrio'r economi twristaidd mewn nifer o ardaloedd gwledig, mae hefyd yn canoli grym.

Mae hyn, dan Lywodraeth sy'n honni ei bod yn datganoli, yn dangos ei hanghysondeb. Fodd bynnag, erys un peth yn gyson: fel pob polisi arall y mae'r Llywodraeth wedi ei ddatblygu, ni fydd yn cynnal yr economi.

Mae'r Llywodraeth yn edrych ymlaen at fwrw ymlaen â'i dogfen newydd, 'WAVE'. Pe na bai ond yn ymdrechu'n fwy dygn gydag ynni'r tonnau, efallai y byddem yn ei chefnogi."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech