Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Francis: Labour failing the Welsh language

Speech to the National Assembly for Wales.

"Minister, about 10 months have passed since we last debated 'Iaith Pawb'. Unfortunately, little has changed since then.

Last September, you rejected our amendment in that debate on bringing the Welsh Language Board into the Government, saying that it was obviously linked to the Government's review of quangos.

You said that the review was ongoing and that it would be inappropriate to accept such an amendment.

Almost a year to the day from when the announcement was made on the so-called bonfire of the quangos, and what it could mean, we are no further ahead, or, from an information point of view, no better off.

In the 'Iaith Pawb' annual report, there is still no reference to the Welsh Language Board being brought into Government in April 2006, other than to say that the Welsh-language scheme will be reviewed later next year.

The creation of the Welsh Language Board in 1993 succeeded in taking the language out of a fraught political environment.

What will happen now? Who will be the

independent expert to champion and safeguard the language?

You possibly envisage that this will be the dyfarnydd. If so, who will the dyfarnydd answer to? Will you, as Minister, be the final arbiter on Welsh-language matters?

You have said that it is too early to provide estimates of the cost of this dyfarnydd, and the exact role is yet to be defined. Surely you must agree that this is policy on the hoof.

You say that you are baffled by the opposition parties' attitude to fforwm iaith. I am also baffled, because the references to fforwm iaith, or language forum in this report, represent one sentence on page 11, which is two sentences fewer than last year.

As quantity is not the issue here, should not quality be? This so-called broad consultation on the language that you speak of was never delivered to my office, as far as I am aware, nor to the offices of my fellow Assembly Members.

I downloaded a copy from the web only to find when speaking last week to people who work with organisations that operate through the medium of Welsh, that they had never even heard of this fforwm iaith. So, I think you need to look closely at that.

It is clear that we in the opposition parties still feel very frustrated at the lack of progress and robust proposals on a number of education issues.

The principle ambition of 'Iaith Pawb' is to create a bilingual Wales, and there is genuine concern that the way in which post-16 education is financed does not give enough consideration to the questions that arise through the provision of Welsh-medium education.

'Iaith Pawb' recognises the importance of the National Eisteddfod of Wales to the Welsh language.

It must be safeguarded, as it is of iconic value and a national treasure. In recent years, this festival has been affected by foot and mouth disease, bad weather and the fact that it moves from north to south Wales each year.

We call on the Assembly Government to give the eisteddfod a single payment of £100,000 this year to assist it in dealing with its financial crisis.

This Government should also meet its needs by giving an annual grant of £500,000 over five years. Naturally, that would be on the proviso that the eisteddfod board sticks to an appropriate business plan, which would include the development of a marketing strategy.

The Welsh Conservative group will support all the opposition parties' amendments today. The 'Iaith Pawb' annual report gives us the opportunity to look in detail at language issues and at ways of ensuring progress in creating a bilingual nation over the long term.

However, unfortunately, due to the lack of progress, not much has happened since last September. It disappoints me to say that I do not believe there is much point in us discussing this report so soon, when all we have heard are fine words and aspirations."

"Weinidog, aeth tua 10 mis heibio ers y tro olaf inni gynnal dadl ar 'Iaith Pawb'. Yn anffodus, ni fu llawer o newid ers hynny.

Fis Medi diwethaf, gwrthodasoch ein gwelliant yn y ddadl honno ar ddod â Bwrdd yr Iaith Gymraeg i mewn i'r Llywodraeth, gan ddweud ei fod yn amlwg yn gysylltiedig ag adolygiad y Llywodraeth o'r cwangos.

Dywedasoch fod yr adolygiad yn mynd rhagddo ac y byddai'n amhriodol derbyn gwelliant o'r fath. Bron i flwyddyn i'r diwrnod ers y cyhoeddiad ar goelcerth y cwangos, fel y'i gelwid, a'r hyn y gallai ei olygu, nid ydym gam ymhellach ymlaen, nac, o safbwynt gwybodaeth, yn ddim gwell arnom.

Yn yr adroddiad blynyddol 'Iaith Pawb', nid oes cyfeiriad eto at ddod â Bwrdd yr Iaith Gymraeg i mewn i'r Llywodraeth yn Ebrill 2006, ac eithrio datganiad y caiff cynllun yr iaith Gymraeg ei adolygu yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf.

Wrth greu Bwrdd yr Iaith Gymraeg ym 1993 llwyddwyd i dynnu'r iaith allan o amgylchedd gwleidyddol llwythog. Beth fydd yn digwydd yn awr? Pwy fydd yr arbenigwr annibynnol i eiriol dros yr iaith a'i diogelu?

Mae'n bosibl eich bod yn rhagweld mai'r dyfarnydd fydd hwn. Os felly, i bwy y bydd y dyfarnydd yn atebol? Ai chi, fel Gweinidog, fydd â'r gair olaf ar faterion yn ymwneud â'r Gymraeg?

Yr ydych wedi dweud ei bod yn rhy gynnar i ddarparu amcangyfrifon am gost y dyfarnydd hwn, ac nad yw'r union rôl wedi'i diffinio eto. Siawns na chytunwch mai polisi byrfyfyr yw hwn.

Dywedwch eich bod yn methu deall agwedd y gwrthbleidiau at y fforwm iaith. Yr wyf innau'n methu deall hefyd, oherwydd mae'r cyfeiriadau at y fforwm iaith yn yr adroddiad hwn yn llenwi un frawddeg ar dudalen 11, sef dwy frawddeg yn llai na'r llynedd. Gan nad maint sydd yn bwysig yma, oni ddylai ansawdd fod?

Ni chafodd yr ymgynghoriad honedig eang ar yr iaith y soniwch amdano fyth mo'i ddanfon i'm swyddfa i, hyd y gwn i, nac i swyddfeydd fy nghyd-Aelodau Cynulliad.

Llwythais gopi i lawr o'r we, dim ond i ganfod wrth sgwrsio yr wythnos ddiwethaf â phobl sydd yn gweithio gyda sefydliadau sy'n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg, nad oeddent hyd yn oed wedi clywed am y fforwm iaith yma.

Felly, yr wyf yn meddwl bod angen ichi edrych yn ofalus ar hynny.

Y mae'n glir ein bod ni yn y gwrthbleidiau yn dal i deimlo'n rhwystredig iawn ynglyn â'r diffyg cynnydd a phrinder cynigion cadarn mewn sawl mater yn ymwneud ag addysg.

Prif uchelgais 'Iaith Pawb' yw creu Cymru ddwyieithog, ac mae pryder gwirioneddol na fydd y system gyllido ar gyfer addysg ôl-16 yn rhoi ystyriaeth ddigonol i'r cwestiynau a grëir wrth gynnig darpariaeth Gymraeg.

Mae 'Iaith Pawb' yn cydnabod pwysigrwydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru i'r iaith Gymraeg. Rhaid ei diogelu gan fod iddi werth eiconig ac mae'n drysor cenedlaethol.

Yn ddiweddar, diwethaf effeithiwyd ar yr wyl ddiwylliannol bwysig hon gan glwy'r traed a'r genau, tywydd gwael, a'r ffaith ei bod yn symud rhwng y De a'r Gogledd bob blwyddyn.

Galwn ar Lywodraeth y Cynulliad i roi un taliad o £100,000 eleni i gynorthwyo'r eisteddfod i ddelio â'i hargyfwng cyllidol. Hefyd, dylai'r Llywodraeth ateb ei hanghenion drwy roi grant blynyddol o £500,000 dros bum mlynedd.

Yn naturiol, byddai hynny'n ddibynnol ar fwrdd yr eisteddfod yn cadw at gynllun busnes priodol, a fyddai'n cynnwys datblygu strategaeth farchnata.

Bydd grwp Ceidwadwyr Cymru yn cefnogi holl welliannau'r gwrthbleidiau heddiw. Mae adroddiad blynyddol 'Iaith Pawb' yn rhoi cyfle inni edrych yn fanwl ar faterion iaith a ffyrdd o gyflawni cynnydd allweddol er mwyn creu cenedl ddwyieithog yn yr hirdymor.

Fodd bynnag, yn anffodus, oherwydd y diffyg cynnydd, nid oes llawer wedi digwydd ers mis Medi diwethaf. Siomedig gennyf yw dweud nad wyf yn gweld llawer o bwrpas inni drafod yr adroddiad hwn mor fuan, pan yr unig beth yr ydym wedi ei glywed yw geiriau mwyn a dyheadau."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech