Speeches recovered from the Conservative party’s online archive More…

Melding: Welsh devolution is a halfway house

Speech to the National Assembly for Wales.

"I welcome the Secretary of State to the Assembly, and I congratulate him on breaking the world record for mentioning John Redwood the most times in our proceedings.

John Redwood seems to play the same role in the Assembly's history as Mary Stuart does in the history of England. Like that Queen, he is rather misunderstood. However, that is not a theme that I could profitably develop today.

On the amendments to the Government of Wales Act 1998 that will be introduced during the next few months, in a spirit of helping the Government and acknowledging the fact that it is making some progress, I want to welcome a few things.

The executive/legislative split is to be welcomed; it was probably the weakest thing in the original devolution settlement. At a time when we were asking local government to move away from the corporate structure, we imposed it in Wales. It was a mistake from the start, and I am pleased to see that it will be rectified.

I also welcome the fact that the Assembly will have wider and more permissive powers for secondary legislation, which seems to make good sense. We now have more robust procedures for examining the more important items of secondary legislation, but I warn the Secretary of State and the First Minister that the key to success is effective scrutiny, which will require a change in how our procedures operate.

On the points that have caused sharp division, I will start, naturally, with the referendum. Why not call a referendum now? Why are we afraid of the people?

I was distraught to hear the Secretary of State say that he thinks that we would fail to win a referendum. That is an awful judgment on his party's Assembly Government, and it is not satisfactory to say that, some time between 2011 and 2015, we may be in a position where we are mature enough to ask the people of Wales whether we can pass our own laws such as Alderney, Jersey, Guernsey or some other continental colossus.

Devolution as it currently stands in Wales is a halfway house. The White Paper puts new windows into the halfway house, but it does not change its structure. In the light of experience, we can now make a judgment on whether the structure is robust, and we ought to get on with that work.

We know why the question will not be put to the people of Wales: it is because they will say 'yes' to primary powers and there will be a consequential cut in the number of Members of Parliament.

That would badly affect the Labour Party, which suffered badly in the general election, and did not secure a majority of votes in England. It is an ominous warning that itself will have consequences for devolution.

I will pass lightly over the bizarre proposal to trigger a referendum with a two-thirds majority vote in favour in the Assembly, but a simple majority in Parliament. It seems to be slightly contradictory.

I also warn the Government that the proposal to expand Orders in Council could be a way of introducing primary legislation in all but name, which would be dishonest. At that point, we would need a referendum, and I refer the Secretary of State to Rhodri Morgan's remarks in his statement last week on the White Paper. He said:

'Under these proposals a Conservative Secretary of State could say, "Okay, I do not agree with the proposals, but, then again, I do not have to defend them because this is a matter for the Assembly to deal with". We would then agree that it would be a matter for the Assembly to take through, and, therefore, there would be a far greater chance of legislation being introduced by us'.

If these proposals for Orders in Council just make the parliamentary end of the procedure a rubber stamp, you should say so, because that is a disgraceful position. If we have primary powers here in all but name, we should be brave enough to tell the people of Wales that that is what is happening, and we should ask them to vote on whether they want the Assembly to proceed and exercise those powers.

The situation with regional Members is simply disgraceful in terms of the Labour Party's proposals. If the Assembly's system needs radical reform, why not in London? Why not in Scotland? Indeed, why not in the Federal Republic of Germany? Under this system, Herr Kohl would never have been allowed to stand in his Rhineland home town, where he often lost, and then get elected on the list.

What a meagre, pathetic vision, to chase down this road and condemn the system that you introduced, instead of adopting a more reasonable response by, perhaps, negotiating a protocol, which would have been fair. There are some difficulties with the present system. I have always acknowledged that, so you do not have to 'Ah, ah' me.

There are parts of the Queen's Speech that we welcome. Time is running out, so I cannot go into detail. Some of the things that we think are lacking are addressed in our amendments.

I particularly welcome the Commissioner for Older People (Wales) Bill. I broadly welcome the Transport (Wales) Bill, but remain concerned about the joint transport authorities that may create another layer of bureaucracy.

Overall, the Government has failed to raise its vision and look to the future to ask what is best for Wales. Instead, it is proposing a patchy comfort blanket for Labour Party supporters to protect them from the chill winds of devolution that have swept through our country."

"Croesawaf yr Ysgrifennydd Gwladol i'r Cynulliad, ac fe'i llongyfarchaf am dorri record y byd am grybwyll John Redwood y nifer fwyaf o weithiau yn ein trafodion.

Ymddengys bod John Redwood yn chwarae'r un rôl yn hanes y Cynulliad ag y gwna Mary Stuart yn hanes Lloegr. Fel y Frenhines honno, caiff ef ei gamddeall braidd. Fodd bynnag, nid yw hon yn thema y gallwn ei datblygu er unrhyw fudd heddiw.

O safbwynt y gwelliannau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a gyflwynir yn ystod y misoedd nesaf, mewn naws o gynorthwyo'r Llywodraeth a chydnabod y ffaith ei bod yn camu ymlaen rhyw gymaint, hoffwn groesawu rhai pethau.

Mae'r gwahaniad gweithredol/deddfwriaethol i'w groesawu; dyma o bosibl a oedd y peth gwannaf yn y setliad datganoli gwreiddiol. Ar adeg pan yr oeddem yn gofyn i lywodraeth leol symud ymaith oddi wrth y strwythur corfforaethol, bu inni ei orfodi yng Nghymru. Yr oedd yn gamgymeriad o'r dechrau, ac yr wyf yn falch o weld y bydd yn cael ei gywiro.

Croesawaf hefyd y ffaith y bydd gan y Cynulliad bwerau ehangach a mwy caniataol ar gyfer is-ddeddfwriaeth, ac mae'n ymddangos bod hyn yn gwneud synnwyr. Mae gennym yn awr weithdrefnau mwy cadarn i archwilio'r eitemau pwysicaf o is-ddeddfwriaeth, ond rhybuddiaf yr Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Weinidog Cymru mai'r allwedd i lwyddiant yw craffu effeithiol, a bydd hyn yn gofyn am newid yn y modd y mae ein gweithdrefnau yn gweithredu.

O safbwynt y pwyntiau sydd wedi achosi rhaniad amlwg, dechreuaf, yn naturiol, gyda'r refferendwm. Pam ddim cynnal refferendwm yn awr? Paham fod arnom ofn y bobl? Yr oedd yn drallod arnaf glywed yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud ei fod yn credu na fyddem yn ennill refferendwm.

Mae hyn yn feirniadaeth ddifrifol ar Lywodraeth ei blaid yn y Cynulliad, ac nid yw'n foddhaol dweud y byddwn o bosibl, rhyw bryd rhwng 2011 a 2015, mewn sefyllfa pan fyddwn yn ddigon aeddfed i ofyn i bobl Cymru a gawn basio ein deddfau ein hunain, fel Alderney, Jersey, Guernsey neu ryw golosws cyfandirol arall.

Ty hanner ffordd yw datganoli fel ag y saif ar hyn o bryd yng Nghymru. Rhydd y Papur Gwyn ffenestri newydd yn y ty hanner ffordd, ond nid yw'n newid ei adeiladwaith. Yng ngoleuni profiad, gallwn yn awr ddyfarnu a yw'r adeiladwaith yn gadarn, a dylasem fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.

Gwyddom paham na roddir y cwestiwn gerbron pobl Cymru: oherwydd y byddent yn dweud 'ie' i bwerau sylfaenol a byddai gostyngiad yn sgîl hynny yn nifer yr Aelodau Seneddol. Byddai hyn yn cael effaith ddifrifol ar y Blaid Lafur, oherwydd iddi ddioddef yn arw yn yr etholiad cyffredinol, ac ni sicrhaodd fwyafrif pleidleisiau yn Lloegr. Mae'n rhybudd bygythiol y bydd ynddo'i hun yn cael effaith ar ddatganoli.

Ni roddaf ormod o sylw i'r cynnig rhyfeddol i danio refferendwm gyda phleidlais fwyafrifol ddeuparth o blaid yn y Cynulliad, ond mwyafrif syml yn y Senedd. Mae'n ymddangos yn anghyson braidd.

Rhybuddiaf y Llywodraeth hefyd y gallai'r cynnig i ehangu Gorchmynion y Cyfrin Gyngor fod yn ffordd o gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ym mhob dim ond mewn enw, a byddai hynny yn anonest. Bryd hynny, byddai arnom angen refferendwm, a chyfeiriaf yr Ysgrifennydd Gwladol at sylwadau Rhodri Morgan yn ei ddatganiad yr wythnos diwethaf am y Papur Gwyn. Dywedodd:

'O dan y cynigion hyn, gallai Ysgrifennydd Gwladol o'r blaid Geidwadol ddweud, "Iawn, ni chytunaf â'r cynigion, ond, eto, nid oes rhaid imi eu hamddiffyn gan mai mater i'r Cynulliad ymdrin ag ef yw hwn". Byddem felly yn cytuno mai cyfrifoldeb y Cynulliad fyddai eu cyflwyno, ac, felly, byddai'n llawer mwy tebygol y byddai deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno gennym ni'.

Os mai pwrpas y cynigion ynghylch Gorchmynion y Cyfrin Gyngor yw gwneud elfen seneddol y weithdrefn yn sêl bendith a dyna i gyd, dylech ddweud hynny, oherwydd mae hon yn sefyllfa gywilyddus.

Os oes gennym bwerau sylfaenol yma mewn pob dim ond enw, dylem fod yn ddigon dewr i ddweud wrth bobl Cymru mai dyna beth sydd yn digwydd, a dylem ofyn iddynt bleidleisio a ydynt am i'r Cynulliad fwrw ymlaen ac ymarfer y pwerau hynny.

Mae'r sefyllfa gydag Aelodau rhanbarthol yn gwbl gywilyddus o safbwynt cynigion y Blaid Lafur. Os oes ar system y Cynulliad angen ei diwygio'n radicalaidd, paham ddim yn Llundain? Paham ddim yn yr Alban? Yn wir, paham ddim yng Ngweriniaeth Ffederal yr Almaen?

Dan y system hon, ni fyddid fyth wedi caniatáu i Herr Kohl sefyll yn ei dref enedigol yn y Rheindir, lle collodd yn aml, cyn cael ei ethol ar y rhestr. Gweledigaeth dila a thruenus yn wir yw mynd i lawr y ffordd hon a chollfarnu'r system a gyflwynwyd gennych, yn hytrach na mabwysiadu ymateb mwy rhesymol drwy, o bosibl, negodi protocol, a fyddai wedi bod yn deg.

Ceir rhai anawsterau gyda'r system bresennol. Yr wyf wastad wedi cydnabod hynny, felly nid oes yn rhaid ichi ddweud 'A, a' wrthyf.

Mae rhannau o Araith y Frenhines y'u croesawn. Mae amser yn mynd yn brin, felly ni allaf fanylu. Mae rhai o'r pethau y credwn sydd yn ddiffygiol yn cael sylw yn ein gwelliannau.

Croesawaf yn arbennig y Mesur Comisiynydd Pobl Hyn (Cymru). Croesawaf yn gyffredinol y Mesur Trafnidiaeth (Cymru), ond yr wyf yn dal yn bryderus ynghylch y cyd-awdurdodau trafnidiaeth a fydd o bosibl yn creu haen arall o fiwrocratiaeth.

Drwyddo draw, mae'r Llywodraeth wedi methu â chodi ei gweledigaeth ac edrych tuag at y dyfodol i ofyn beth yw'r gorau ar gyfer Cymru. Yn hytrach, mae'n cynnig blanced gysur dameidiog i gefnogwyr y Blaid Lafur i'w gwarchod rhag gwyntoedd oerllyd datganoli sydd wedi ysgubo drwy ein gwlad."

Keyboard shortcuts

j previous speech k next speech